Clyweliadau Cwmni

Rydym yn cynnal clyweliad cwmni cyffredinol i ehangu'r gronfa o ddawnswyr annibynnol yr ydym yn gweithio gyda nhw yn y dyfodol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cytundebu fesul prosiect pan fydd gweithgaredd wedi'i drefnu, a phan fydd cyllid wedi’u gadarnhau. Ymhlith y prosiectau mae Ymchwil a Datblygu, cynhyrchu a theithio, prosiectau cymunedol ac addysgu. Mae gennym rai prosiectau cyffrous eisoes wedi'u hamserlennu ar gyfer 2020/21 ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu Ransackers newydd i'r tîm!
Gwybodaeth Clyweliad:
Dyddiad: Dydd Llun 24ain Chwefror 2020
Amser: 1.00pm - 5.30pm
Lleoliad: Canolfan Gelf Chapter, Caerdydd, CF5 1QE
Mae'r clyweliad yn agored i bob rhyw.
I ymgeisio, e-bostiwch info@ransackdance.co.uk gyda'ch C.V (gan gynnwys eich profiad perfformio a phrofiad addysgu) a dolen i ffilm ohonoch chi'n dawnsio. Cofiwch gynnwys paragraff byr yn egluro pam yr hoffech chi weithio gyda Chwmni Dawns Ransack a'r hyn rydych chi'n teimlo y byddwch chi'n dod i'r cwmni.
Cofiwch gynnwys gwybodaeth hefyd am unrhyw ofynion mynediad y mae angen i ni eu darparu yn y clyweliad.
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector dawns, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl sy'n niwro-frysiog, pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+.
Dyddiad cau i’r Cais:
Dydd lau 20fed Chwefror 2020 9am

