TAFLUNIO ‘MOMENTA’
Taflunio Momenta oedd ein prosiect ymchwil a datblygu, oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd newydd o gyflwyno tafluniadau ffilm a goleuo yn ein gwaith 'Momenta'. Roedd ein harchwilio’n golygu creu dau biler taflunio unigryw a defnyddio taflunwyr yn cael eu dal yn y llaw i integreiddio delweddau i’r gwaith. Cynhaliwyd rihyrsals yng Nghanolfan Gelf y Miwni, Pontypridd gyda sesiwn rhannu neu weithio ar gyfer gweithwyr proffesiynol y diwydiant ar 18fed Ionawr 2017 yn y Riverfront, Casnewydd. Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru.




