top of page

Ransack: Eich Straeon

Ysgol Haf y Celfyddydau Perfformio

Ysgol haf yn y celfyddydau perfformio ar gyfer rhai 8 i 18 oed yw Ransack Your Stories. Mae’n cael ei harwain gan artistiaid proffesiynol o gwmni dawns Ransack. Mae’r ŵyl yn cynnwys hwyl, gweithdai creadigol mewn dawns cerdd a ffilm sy’n gweithio tuag at greu sioe theatr fyw i deulu a ffrindiau.

Bob blwyddyn mae Ransack yn gweithio o amgylch thema sy’n deillio o straeon gan y bobl ifanc sy’n cymryd rhan a’u teuluoedd, gan ddefnyddio cerddoriaeth, dawns a ffilm i ddod â’r straeon hyn yn fyw ar y llwyfan.

​

 

Ransack: Eich Straeon 2023

​

Dyddiadau:

Dydd Llun 24 Gorffennaf - Dydd Gwener 28 Gorffennaf, 10am-3.30pm

Perfformiad: Dydd Gwener 28 Gorffennaf (gyda'r nos)

​

Lleoliad:

YMa, Taff Street, Pontypridd, CF37 1NF

​

Pris:

£25 ar gyfer yr wythnos gyfan! Gan gynnwys 1 tocyn i’r perfformiad am ddim!

Mae bwrsariaethau ar gael  – cysylltwch â ni ar gyfer gwybodaeth a ffurflen gais

​

 

I ARCHEBU LLE:

linzi@artiscommunity.org.uk / 01443 490390

​

Mae Ransack: Eich Straeon yn brosiect cynhwysol ar gyfer pob lefel a gallu.

​

Lluniau: Jamie Morgans

​

​

bottom of page