
Gweithdai




Newyddion Gweithdai Diweddaraf!
Dosbarthiadau Ar-lein:
Mae’n dawnswyr proffesiynol wedi recordio nifer o ddosbarthiadau dawns o’u cartrefi fel rhan o’n grant ymsefydlogi Covid-19 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau i ddewis o’u plith yn cynnwys techneg cyfoes, dosbarthiadau repertoire a gweithdai creadigol ynghyd â sesiynau tiwtorial cynhesu lan ac oeri lawr. Mae’r gweithdai hyn ar gyfer rhai 12 oed a throsodd i oedolion ac yn cynnwys dewisiadau symudiad ac addasiadau ar gyfer ystod o lefelau.
I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma
Gweithdai i ysgolion a grwpiau cymunedol
Beth ydyn ni’n ei gynnig:
'Gweithdai Un-tro' i grwpiau ysgol (oed 7+) , colegau, prifysgolion a grwpiau cymunedol/ieuenctid
Darpariaeth CPD i ddawnswyr ac athrawon dawns proffesiynol ac ymarferwyr theatr gorfforol
Clybiau ar ôl ysgol a sesiynau dawns ieuenctid rheolaidd
Mae’n gweithdai’n cynnwys:
-Techneg dawns
-Theatr gorfforol
-Gwaith codi partner a grŵp
-Coreograffeg
-Tasgau creadigol
‘Mae’n teimlo fel ein darn ni, ni biau fe, fyddai dim grŵp arall yn gallu ei ailadrodd gan mai oddi wrthym ni y daeth e. Mae hynna’n cŵl.”
Aelod o grŵp ieuenctid Dawns Powys ar gyfnod hyfforddi, 2017
“Roedd y dosbarth yn llifo mewn ffordd ryfeddol, dan arweiniad Sarah oedd mor dyner a chyda help rhai cerddorion byw cwbl anhygoel.....coreograffeg perffaith gan griw Ransack. Roeddwn i’n teimlo ’mod i’n cael fy sbwylio wrth gael caniatâd i fod yn rhan o amgylchedd gwaith mor ysbrydoledig."
Aelod o ddosbarth 'CPD' Prosiect Arrive, 2016
Prisiau:
-Clybiau Ar Ôl Ysgol (mae prisiau’n amrywio yn ôl amseroedd contract; holwch os gwelwch yn dda)
-Gweithdy 2 awr: £100
-Gweithdy Diwrnod Llawn (5-6 awr) : £250
-2 Ddiwrnod hyfforddiant: £450
Mae’n gweithdai preswyl yn gweithio tuag at greu darn perfformio gyda’ch grŵp.
Nodwch nad yw prisiau’n cynnwys teithio a llety ar gyfer dawnswyr
Mae tiwtoriaid i gyd wedi cael gwiriad DBS
Gallwn hefyd agor cyfleoedd ‘Codi’r Llen’ Rydym hefyd ar gael ar gyfer cyfnodau hyfforddi hirach o 1-2 wythnos ble gall ein Cyfarwyddwr Artistig dawnswyr weithio gyda’ch myfyrwyr i greu darn perfformio. Pan fyddwn ni ar daith gallwn hefyd agor cyfleoedd ‘Codi’r Llen’ ble gall grwpiau ddod i berfformio yn ein sioeau proffesiynol! Cysylltwch â ni i gael mwy o fanylion.
Cerddorion:
Gallwn ddarparu cerddorion byw i gyfeilio mewn gweithdai; profiad gwych i chi a’ch myfyrwyr ddawnsio i gerddoriaeth fyw!
Ymholwch ynglŷn ag archebu
Pecyn Addysg a Ffurflenni Archebu: info@ransackdance.co.uk