top of page

Ymchwil a Datblygu Digidol  

Fel rhan o’n Prosiect Egwylion Digidol rydym wedi parhau ein proses ymchwil a datblygu ar gyfer ein gwaith newydd ‘Ni’ ar-lein. Thema ‘Ni’ yw’r cysyniad o ‘rannu’ ac mae’n edrych yn neilltuol ar faint a rannwn o’n bywydau heddiw a sut y caiff yr wybodaeth honno ei derbyn.

Yn ystod y broses, bu ein dawnswyr yn ymarfer yn eu cartrefi eu hunain dan gyfarwyddyd Sarah Rogers, ein Cyfarwyddwr Artistig, dros Zoom.

Edrych ar beth o’r fideo ymarfer a chreu e ymchwiliad islaw:

- Ymchwiliadau deuawd yn gweithio gyda ffurfio sgriptiau o ddatganiadau ysbeidiol, ar wahân i ffurfio naratifau a pherthynas rhwng cymeriadau. Cafodd yr holl linellau a ddefnyddiwyd i greu’r sgript eu casglu gan aelodau ein cynulleidfa, cyfranogwyr neu aelodau’r gymuned ar hyd ein proses greadigol hyd yma .... diolch i bawb a gyfrannodd at hyn ar hyd y ffordd!

- Deunydd symud o’n golygfa ‘sgwrs’ yn edrych pam y dewiswn rannu ein straeon.

- Ymchwiliad dechreuol o olygfa newydd sbon yn seiliedig ar y llu o gyfarwyddiadau a dderbyniwn drwy’r wybodaeth y mae pobl yn ei rhannu. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r syniad hwn ymhellach pan allwn i gyd ymarfer gyda’n gilydd yn y stiwdio eto.

bottom of page