
Cwmni theatr dawns â’i gartref ym Pontypridd, Cymru yw Cwmni Dawns Ransack. Mae’r Ransackers yn cymysgu dawns athletig gyfoes llawn risg gyda chynildeb barddonol i adrodd stori. Mae’n gwaith yn archwilio cyfanrwydd theatr, gan uno symud byw, cerddoriaeth, ffilm a naratif, i symbylu cynulleidfaoedd i feddwl a theimlo.
Mae Ransack yn ymrwymo i gynhyrchu cynyrchiadau theatr ansawdd uchel sy’n addas i deithio, a gwneud gwaith sy’n hygyrch, gafaelgar sy’n ysgogi’r meddwl ar gyfer pobl o bob oed, profiad a chefndir. Rydym hefyd yn ymrwymo i ddarparu cyfleoedd hyfforddi unigryw i bobl ifanc, oedolion a gweithwyr proffesiynol, gan greu amgylchedd cefnogol, cydweithredol i artistiaid ar bob lefel i adeiladu sgiliau, ffurfio partneriaethau creadigol, a chreu gwaith theatr dawns o ansawdd uchel.
Ein Datganiad Cenhadaeth
Ysbrydoli a grymuso cymunedau dan anfantais gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru i ymgysylltu â chreu profiadau theatr dawns proffesiynol bywiog a rennir fel cynulleidfaoedd a chyfranogwyr; datblygu cynulleidfaoedd dawns newydd trwy deimlad o berchnogaeth a pherthyn.
Mae Cwmni Dawns Ransack yn sefydliad cysylltiedig â'r sefydliad dawns cymunedol Artis Community/YMa, sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd, lle rydym yn datblygu fel cwmni dawns preswyl. Rydym yn gweithio gyda'r sefydliad i dyfu rhaglen unigryw o ddarpariaeth ddawns yn strategol sy'n ymestyn rhwng perfformiad proffesiynol a dawns gymunedol.


