
Gweithdai
NEWYDD: Gweithdai 'Us and Them' (Ni a Nhw)
Rydym yn cynnig gweithdai a chyfleoedd perfformio gyda’n cwmni fel rhan o’n perfformiadau yn Gwanwyn 2027. Mwy o fanylion isod.
.png)
Dosbarthiadau dawns wythnosol rheolaidd yn ein canolfan, YMa, Pontypridd
Rydym yn cyflwyno'r dosbarthiadau canlynol bob wythnos (yn ystod y tymor):
- Dosbarth Dawns Gyfoes Lefel Agored i Oedolion, nos Fercher 6.15 - 7.15pm (pob lefel gan gynnwys dechreuwyr, oedrannau 18+)
- Cwmni Dawns Ieuenctid Ransack, nos Iau 6.00 - 7.30pm (pob lefel/gallu, oedrannau 11 - 18)
Cynhelir dosbarthiadau mewn partneriaeth â'n sefydliad cysylltiedig Artis Community/YMa. Ewch i'w gwefan am ragor o wybodaeth a dolenni archebu: Gwefan YMa
Mae Artis Community hefyd yn cynnal dosbarthiadau dawns creadigol hwyliog i oedrannau 4 - 10 oed - gweler y wefan am fanylion.
Gweithdai i ysgolion a grwpiau cymunedol a Dawnswyr Proffesiynol:
-Beth ydyn ni’n ei gynnig:
-'Gweithdai Un-tro' i grwpiau ysgol (oed 7+) , colegau, prifysgolion a grwpiau cymunedol/ieuenctid
-Darpariaeth CPD i ddawnswyr ac athrawon dawns proffesiynol ac ymarferwyr theatr gorfforol
-Clybiau ar ôl ysgol a sesiynau dawns ieuenctid rheolaidd
Mae’n gweithdai’n cynnwys:
-Techneg dawns
-Theatr gorfforol
-Gwaith codi partner a grŵp
-Coreograffeg
-Tasgau creadigol
‘Mae’n teimlo fel ein darn ni, ni biau fe, fyddai dim grŵp arall yn gallu ei ailadrodd gan mai oddi wrthym ni y daeth e. Mae hynna’n cŵl.”
Aelod o grŵp ieuenctid Dawns Powys ar gyfnod hyfforddi, 2017
“Roedd y dosbarth yn llifo mewn ffordd ryfeddol, dan arweiniad Sarah oedd mor dyner a chyda help rhai cerddorion byw cwbl anhygoel.....coreograffeg perffaith gan griw Ransack. Roeddwn i’n teimlo ’mod i’n cael fy sbwylio wrth gael caniatâd i fod yn rhan o amgylchedd gwaith mor ysbrydoledig."
Aelod o ddosbarth 'CPD' Prosiect Arrive, 2016



Dosbarthiadau Ar-lein:
Mae’n dawnswyr proffesiynol wedi recordio nifer o ddosbarthiadau dawns o’u cartrefi fel rhan o’n grant ymsefydlogi Covid-19 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau i ddewis o’u plith yn cynnwys techneg cyfoes, dosbarthiadau repertoire a gweithdai creadigol ynghyd â sesiynau tiwtorial cynhesu lan ac oeri lawr. Mae’r gweithdai hyn ar gyfer rhai 12 oed a throsodd i oedolion ac yn cynnwys dewisiadau symudiad ac addasiadau ar gyfer ystod o lefelau.
I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma
*Mae tiwtoriaid i gyd wedi cael gwiriad DBS
Am ragor o wybodaeth gan gynnwys prisiau, pecynnau addysg a ffurflenni archebu cysylltwch â: info@ransackdance.co.uk


