Dosbarthiadau Ar-lein
Mae’n dawnswyr proffesiynol wedi recordio nifer o ddosbarthiadau dawns o’u cartrefi fel rhan o’n grant ymsefydlogi Covid-19 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau i ddewis o’u plith yn cynnwys techneg cyfoes, dosbarthiadau repertoire a gweithdai creadigol ynghyd â sesiynau tiwtorial cynhesu lan ac oeri lawr. Mae’r gweithdai hyn ar gyfer rhai 12 oed a throsodd i oedolion ac yn cynnwys dewisiadau symudiad ac addasiadau ar gyfer ystod o lefelau.
Rydym yn cynghori pawb sy’n cymryd rhan i ddilyn un o’n sesiynau tiwtorial cynhesu lan cyn cymryd rhan yn ein dosbarthiadau cyfoes neu weithdai repertoire:
Dosbarthiadau cyfoes a weithdai repertoire:
Gofynnir i chi sicrhau eich bod yn oeri eich corff yn llawn ar ôl cymryd un o’n dosbarthiadau dawns.
Os hoffech gael eich arwain drwy oeri corff llawn, gweler ein sesiwn tiwtorial oeri lawr islaw: