top of page

 

​Mae Cwmni Dawns Ransack (Ransack) yn awyddus i benodi Cyfarwyddwyr newydd i ymuno â’n Bwrdd. Mae’n chwilio am unigolion sy’n angerddol dros y celfyddydau yng Nghymru, yn enwedig felly yn Rhondda Cynon Taf a chymunedau gwledig eraill, ac sydd â’r amser a’r ymrwymiad i gyfrannu at ddatblygiad strategol a chynaliadwyedd Ransack i’r dyfodol. Mae hwn yn gyfle i weithio gyda chwmni dawns dynamig a blaengar, gan gyflenwi ystod o raglenni rhwng arferion dawns gymunedol a dawns gynhyrchu, a’n helpu i ymestyn ein proffil a’n cyrhaeddiad.

 

Bydd Ransack yn recriwtio rhwng 2 a 4 o Cyfarwyddwyr newydd. Rydym yn chwilio am unigolion a chanddynt ystod o wybodaeth a sgiliau, yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Dawns/y celfyddydau

  • Yr iaith a’r diwylliant Cymraeg

  • Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth

  • Rhaglennu lleoliadau ac arweinyddiaeth

  • Cyhoeddiadau Cyhoeddus a marchnata

  • Cyllid a chodi arian​

​

Mae Cwmni Dawns Ransack yn recriwtio Cyfarwyddwyr ar hyn o bryd

RansackEisteddfod2024(25).jpg

Gwybodaeth Recriwtio Llawn:

 

Cefndir y Cwmni

Cwmni cynhyrchu theatr dawns gyfoes yw Cwmni Dawns Ransack sydd wedi ei leoli ym Mhontypridd, de Cymru, a’i wreiddiau’n ddwfn mewn ymgysylltiad ac ymglymiad cymunedol. Rydym yn sefydliad cysylltiol gyda Chymuned Artis Community – ac yn cyflenwi ein rhaglenni dawns gymunedol a chelfyddydol yn RhCT, mewn partneriaeth â’r sefydliad. Ni hefyd yw’r ‘cwmni dawns preswyl’ yng nghanolfan gelfyddydau newydd YMa ym Mhontypridd.

 

Mae ein gwaith perfformio a’n gwaith cymunedol, fel ei gilydd, yn cynnwys dawns fyw, cerddoriaeth, ffilm a’r gair llafar. Rydym yn cydweithio gydag ystod o artistiaid proffesiynol ac aelodau o’r gymuned yn ein proses greadigol. Ein Cyfarwyddwr Artistig, Sarah Rogers, oedd yn gyfrifol am hau hadau’r sefydliad yn 2013, a hynny’n wreiddiol fel unigolyn yn gwneud cais am gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i weithio gyda chydweithfa o artistiaid. Gan sylweddoli bod yna fwlch holl bwysig o ran darparu hyfforddiant ac isadeiledd i artistiaid dawns addawol yng Nghymru, aeth ati i greu rhaglen o brosiectau a allai helpu i adeiladu rhwydwaith o artistiaid dawns newydd, ynghyd ag adeiladu ei gwaith coreograffig creadigol ei hun a chasglu tîm cryf o artistiaid llawrydd i ffurfio cwmni dawns newydd yng Nghymru: Cwmni Dawns Ransack/Ransack Dance Company. Byth ers hynny, hi yw’r prif sbardun y tu ôl i ddatblygiad strategol y cwmni, gan symud y grŵp ymlaen yn 2016 i fod yn sefydliad grŵp cymunedol gyda chyfansoddiad, cyn dod yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant yn 2019 a ffurfio Bwrdd o Gyfarwyddwyr medrus ac ymroddedig, ynghyd â thîm o artistiaid llawrydd.

 

Rydym bellach mewn cam pwysig o’n datblygiad lle rydym wedi llunio rhaglen gyffrous o waith, yn cynnwys ymchwil a datblygiad, teithio cynyrchiadau proffesiynol, gweithgaredd cymunedol ac allanol, a hyfforddiant datblygiad proffesiynol; bydd y cyfan yn cyrraedd ac ymwneud ag ystod o bobl ledled Cymru, ac yn llesol iddynt. Rydym wedi datblygu cylchred tair-blynedd o brosiectau ar draws ein rhaglen, gan ein galluogi ni i greu gwaith cynhyrchu pwerus ac iddo gysylltiad cynhenid â’n haelodau yn y gymuned; byddwn yn integreiddio eu straeon personol a’u barn, tra hefyd yn ymgysylltu â hwy fel cynulleidfa a chyfranogwyr. Fodd bynnag, er mwyn i’n sefydliad gael capasiti ac adnoddau digonol i ddatblygu a thyfu ymhellach, mae’n holl bwysig ein bod yn tyfu ein bwrdd o ymddiriedolwyr a’n tîm craidd o staff rheoli.

 

Datganiad Cenhadaeth

Ysbrydoli a grymuso cymunedau yng Nghymru sydd dan anfantais gymdeithasol ac economaidd i ymgysylltu â’r gwaith o greu profiadau theatr dawns broffesiynol a bywiog, a’u rhannu fel cynulleidfaoedd a chyfranogwyr; datblygu cynulleidfaoedd dawns newydd drwy ymdeimlad o berchenogaeth a pherthyn.

 

Gweledigaeth

Ein gweledigaeth tymor-hir yw y bydd Cwmni Dawns Ransack, erbyn 2027, yn arweinydd ym maes cynhyrchu cynyrchiadau dawns proffesiynol corfforol ac ysbrydoledig a gweithgaredd cyfranogol yng Nghymru. Ein nod yw bod yn gwmni dawns teithiol Cymreig sefydledig sy’n cysylltu’n rhagweithiol â chynulleidfaoedd dawns newydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ym mhob cwr o Gymru, tra hefyd yn cynyddu ein presenoldeb ledled y DU i helpu i roi Cymru ‘ar y map’ ym maes dawns.

​

Cliciwch ar y dolenni i weld clipiau byr a rhaglenni dogfen o rai o'n prosiectau a'n cynyrchiadau:

​

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

​

Strwythur a Llywodraethu

Mae aelodau presennol y Bwrdd yn cynnwys y canlynol:

Ar hyn o bryd caiff Cwmni Dawns Ransack ei reoli gan Fwrdd o 4 Cyfarwyddwr yn gweithio mewn partneriaeth â’n Cyfarwyddwr Artistig.  Mae ein Cyfarwyddwyr a’n Cyfarwyddwr Artistig yn cwrdd dim llai na thair gwaith y flwyddyn ar drefniant gwirfoddol i drafod, datblygu, ac adolygu prosiectau, a chynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol unwaith bob 12 mis i adolygu nodau’r sefydliad, a’r cyfrifon blynyddol, cyn i’r rhain gael eu ffeilio gyda’r cyrff rheoleiddio a chyllido. Rhaid i dri Chyfarwyddwr fod yn bresennol ar gyfer unrhyw gyfarfod neu broses lle gwneir penderfyniadau, a rhaid i dri aelod gytuno cyn y gellir penderfynu symud ymlaen gydag unrhyw weithgarwch.

 

Byddwn yn adolygu ein cynllun busnes ddwywaith y flwyddyn mewn cyfarfodydd o’r Bwrdd ac yn ein Cyfarfod Blynyddol, ac yn ei ddiweddaru/olygu i gyfateb i weithgaredd y cwmni a’r amgylchedd cyfnewidiol ym maes y celfyddydau – gan sicrhau bod ein gweledigaeth a’n nodau fel cwmni yn gyfredol. Byddwn yn cynhyrchu cynllun 5-mlynedd newydd, gyda chopi caled a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol, e.e. 2020–2025, 2021–2026, 2022–2027.

 

Cliciwch yma i weld ein tîm presennol o aelodau'r bwrdd

 

Recriwtio Cyfarwyddwyr Newydd

Mae Cwmni Dawns Ransack (Ransack) yn awyddus i benodi aelodau bwrdd newydd i ymuno â’n Bwrdd. Mae’n chwilio am unigolion sy’n angerddol dros y celfyddydau yng Nghymru, yn enwedig felly yn Rhondda Cynon Taf a chymunedau gwledig eraill, ac sydd â’r amser a’r ymrwymiad i gyfrannu at ddatblygiad strategol a chynaliadwyedd Ransack i’r dyfodol. Mae hwn yn gyfle i weithio gyda chwmni dawns dynamig a blaengar, gan gyflenwi ystod o raglenni rhwng arferion dawns gymunedol a dawns gynhyrchu, a’n helpu i ymestyn ein proffil a’n cyrhaeddiad.

 

Bydd Ransack yn recriwtio rhwng 2 a 4 o aelodau bwrdd newydd. Rydym yn chwilio am unigolion a chanddynt ystod o wybodaeth a sgiliau, yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Dawns/y celfyddydau

  • Yr iaith a’r diwylliant Cymraeg

  • Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth

  • Rhaglennu lleoliadau ac arweinyddiaeth

  • Cyhoeddiadau Cyhoeddus a marchnata

  • Cyllid a chodi arian

 

Disgrifiad o rôl Cyfarwyddwyr

Dyletswyddau Cyfarwyddwyr yw:

  • Sicrhau bod Ransack yn cydymffurfio â’i ddogfen lywodraethol ac unrhyw ddeddfwriaeth neu reoliadau eraill.

  • Sicrhau bod Ransack yn dilyn ei nodau fel y diffinnir hwy yn ei ddogfen lywodraethol.

  • Sicrhau bod Ransack yn defnyddio’i adnoddau i ddim byd heblaw dilyn ei nodau.

  • Cyfrannu mewn modd gweithredol i rôl y Bwrdd o roi cyfeiriad strategol cadarn i’r cwmni – gosod polisïau, diffinio nodau, gosod targedau, a gwerthuso perfformiad yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt.

  • Sicrhau cynaliadwyedd ariannol Ransack.

  • Sicrhau bod cronfeydd y cwmni’n cael eu buddsoddi’n briodol.

 

Yn ogystal â’r dyletswyddau statudol a nodir uchod, dylai pob ymddiriedolwr ddefnyddio unrhyw sgiliau, gwybodaeth neu brofiad penodol sydd ganddynt er mwyn helpu’r Bwrdd i wneud penderfyniadau cadarn. Gall hyn olygu craffu ar bapurau’r Bwrdd, arwain trafodaethau, ffocysu ar faterion allweddol, darparu cyngor ac arweiniad ar fentrau newydd, hyfforddi staff, neu unrhyw faes arall lle mae gan yr ymddiriedolwr arbenigedd penodol.

 

Manyleb Person ar gyfer Cyfarwyddwyr

  • Ymrwymiad i Ransack a’n gwaith – yn enwedig felly ethos ein cwmni, sy’n rhoi ymdriniaeth gyfartal i arferion dawns gymunedol a dawns gynhyrchu.

  • Parodrwydd i neilltuo’r amser a’r ymdrech angenrheidiol.

  • Gweledigaeth strategol.

  • Y gallu i feddwl yn greadigol.

  • Parodrwydd i ddweud eu dweud a mynegi barn.

  • Parodrwydd i ddeall a derbyn y dyletswyddau cyfreithiol, y cyfrifoldebau a’r ymrwymiadau sydd ynghlwm â bod yn ymddiriedolwr.

  • Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm.

  • Atebolrwydd, agwedd agored, gonestrwydd ac arweiniad.

  • Byddai’n ddymunol petai gan ymddiriedolwyr brofiad a gwybodaeth ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y celfyddydau.

  • Byddai’n ddymunol petai’r ymddiriedolwyr yn siarad Cymraeg (neu’n dysgu’r iaith).

  • Byddai’n ddymunol petai’r ymddiriedolwyr yn byw, yn gweithio, neu â chysylltiad â RhCT a/neu â’r ardaloedd gwledig yng nghymoedd de Cymru.

  • Byddai’n ddymunol petai gan yr ymddiriedolwyr gefndir mewn busnes a/neu gyllid, a’u bod yn gallu dod â’u harbenigedd proffesiynol a’u profiad byw i gefnogi twf Cwmni Dawns Ransack.

 

Sut i ymgeisio

I ymgeisio, anfonwch eich CV a llythyr atodol byr yn amlinellu pam yr hoffech fod yn Ymddiriedolwr, ac yn nodi’r sgiliau y gallwch eu darparu yn y rôl, at info@ransackdance.co.uk

 

Mae croeso i ymgeiswyr, os dymunant, anfon ffilm o’u CV a’u llythyr atodol yn hytrach na’u hysgrifennu, ac rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, Saesneg neu IAP/BSL.

 

Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal (gofynnir i chi gwblhau’r ffurflen hon wrth ymgeisio)

 

Rydym yn annog ceisiadau oddi wrth bobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn sector y celfyddydau, yn cynnwys pobl o’r mwyafrif byd-eang, pobl sy’n niwroamrywiol, B/byddar neu anabl, a phobl o’r gymuned LHDTC+.

 

Os hoffech drafod y cyfle hwn yn fwy manwl, mae croeso i chi gysylltu â Sarah Rogers (Cyfarwyddwr Artistig) ar info@ransackdance.co.uk / 07837 759193.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 9 Ionawr 2026

Lottery_funding_strip_landscape_black_tr
artis copy_edited.png

Ransack Dance Company Ltd

Registered Company Number:12039765

YMa, Taff  Street, Pontypridd, CF37 4TS

Ransack Dance Company Photo credits:

Roy Campbell-Moore | Spring Box Photography | Full Mongrel

bottom of page