'Arrive at Home'
Ynglŷn â Cyrraedd
Prosiect hyfforddi a datblygu proffesiynol Ransack ar gyfer coreograffwyr sy'n dod i'r amlwg yw Prosiect 'Cyrraedd', wedi'i ariannu gan Sefydliad Jerwood a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Bob blwyddyn, roedden ni'n 'Cyrraedd' theatr groesawgar wahanol yng Nghymru. Mae lleoliadau blaenorol yn cynnwys Canolfan Gelfyddydau'r Memo, Theatr Brycheiniog, Canolfan Gelfyddydau'r Muni, Glan yr Afon a Sherman Cymru.
Yn 2025, dychwelodd Cwmni Dawns Ransack adref i YMa gyda'n prosiect newydd 'Arrive at Home'(Cyrraedd Adref); Rhoi cartref parhaol i'r prosiect yn ein canolfan newydd ym Mhontypridd, ers dod yn gwmni dawns preswyl yn 2023.
Mae Prosiect 'Cyrraedd Adref' yn cynnwys:
- Llogi stiwdio am ddim ac am bris gostyngedig i goreograffwyr Cyrraedd yn YMa.
- Mentora a 'sgyrsiau creadigol' gyda'n Cyfarwyddwr Artistig, Sarah Rogers drwy gydol y broses greadigol
- Rhannu stiwdio gyda phob artist Arrive i rannu gwaith sydd ar y gweill a rhoi/derbyn adborth gan gymheiriaid.
-Mae Cwmni Dawns Ransack hefyd yn ymchwilio a datblygu gwaith newydd yn y stiwdio, yn gweithio gyda mentor cwmni ac yn mynychu digwyddiadau adborth gan gymheiriaid.
-Dosbarthiadau cwmni agored yn ystod ein hymarferion Ymchwil a Datblygu i ddawnswyr llawrydd ychwanegol gymryd rhan ynddynt fel hyfforddiant DPP am ddim.
-Mae gweithdai ar gyfer grwpiau dawns ieuenctid ysgolion a chymunedau lleol yn rhedeg ochr yn ochr â'r gweithgaredd datblygu proffesiynol, i greu sioeau codi llen ar gyfer Llwyfan Dawns Arrive.
-Mae Llwyfan Dawns Arrive yn YMa yn uchafbwynt y prosiect; yn cyflwyno gwaith newydd ar gam cynnar gan holl goreograffwyr a chwmnïau sy'n dod i'r amlwg yn Arrive, gan gynnwys Cwmni Dawns Ransack. Mae'r gynulleidfa'n rhoi adborth i'r artistiaid trwy ffurflenni adborth a digwyddiad trafod am ddim ar ôl y sioe.
Rydym yn bwriadu cychwyn llinyn teithiol i 'Arrive' ac ailystyried ein model o bartneru â gwahanol theatrau ledled Cymru ochr yn ochr â'n prosiect 'Arrive at Home yn YMa. Os ydych chi'n lleoliad sydd â diddordeb mewn partneru ar gyfer 'Arrive Project' ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: info@ransackdance.co.uk


