top of page

Artistiaid Dawns

'EXPLORE' 2022

Artistiaid Dawns Annibynnol

4.jpg

Mae cefndir Tommy Davies mewn brêc-ddawnsio a hip hop. Bu’n ddawnsiwr mewn cystadlaethau proffesiynol a masnachol am dros 15 mlynedd. Mae ganddo brofiad dawnsio helaeth yn cynnwys dawnsio ar gyfer y Black Eyed Peas, Butlins Tour, Strictly Come Dancing, Avant Cymru, Nitro Circus a llawer mwy. Mae ganddo hefyd radd mewn Rheoli Digwyddiadau. Ynghyd â hyn mae wedi addysgu dawns i ystod o alluoedd ac oedrannau ac mae’n addysgu amrywiaeth o ddosbarthiadau rheolaidd yn ei gymuned leol yng Nghaerdydd. Nod ddiweddaraf Tommy fel dawnsiwr yw ymestyn i weithio gyda gwahanol arddulliau a chyfryngau dawns er mwyn esblygu fel artist dawns. Mae Tommy yn gobeithio sicrhau mwy o ddealltwriaeth o ‘bwyntiau croesi drosodd’ mewn gwahanol arddulliau drwy gymryd rhan yn YMCHWILIO a sut i’w defnyddio yn ei symudiad dawns ac ymarfer addysgu. Mae wrth ei fodd gyda’r syniad o neidio i ffyrdd pobl eraill o symud a gweld cysylltiadau eraill gyda dawns a cherddoriaeth.

Ymunodd Tommy â ni ar gyfer ein rhaglen Ymchwilio ar-lein y llynedd ac felly mae’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y prosiect wyneb yn wyneb.

'Roedd ymdeimlad o ddiben a rhesymu i bopeth ac fel dawnsiwr sy’n credu’n gryf fod yn rhaid fod diben tu ôl i’r symud o fewn dawns, roedd hyn yn taro tant gyda fi.’

Dechreuodd Tom Jones ei hyfforddiant yng Ngholeg Castell Nedd. Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaeth greu a pherfformio fel rhan o Gwmni Dawns LiFT ar y cyd â Craig Coombs, o fewn y cast lleol fel rhan o ail-lwyfannu ‘Infra’ Wayne McGregor gan Mariinsky Ballet, ac yn y cast cymunedol fel rhan o ‘RAFT’ Gwyn Emberton. Aeth ymlaen wedyn i orffen ei hyfforddiant gradd mewn dawns gyfoes yng Ngholeg Cerddoriaeth a Dawns Trinity Laban. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant, neilltuodd amser i fireinio ei ymarfer addysgu, gan gyflwyno sesiynau dawns yng Ngholeg Castell Nedd a helpu gyda coreograffeg yno. Yn ddiweddar mae Tom wedi perfformio yng ngwaith diweddaraf Craig Coombs ar gyfer Cwmni Dawns LiFT ac mae hefyd yn datblygu gwaith gyda chyd-goreograffwyr Sam Rees a Margherita Mattia ar gyfer gwyliau a llwyfannau coreograffeg.

IMG_0755.jpeg
IMG_0933.jpg

Mae Anna Babych yn ddawnswraig broffesiynol o Kyiv, Wcráin, sy’n arbenigo mewn arddulliau stryd yn cynnwys brêc, hip-hop, tÅ· a sodlau ac mae ganddi hefyd brofiad a hyfforddiant mewn ballet a thechnegau dawns cyfoes. Ers dod i Gymru bu Anna yn gweithio a chydweithredu gyda Tommy Boost, dawnsiwr brêc o Gaerdydd, a chymryd rhan mewn hyfforddiant ballet a dawns cyfoes yn Rubicon Dance. Drwy gymryd rhan yn Ymchwilio, mae Anna yn gobeithio y gall rwydweithio gyda dawnswyr eraill yng Nghymru yn ogystal â gwella ei gwybodaeth gyfoes drwy weithio gyda dawnswyr proffesiynol ac ymchwilio sut i gyfuno ei gwybodaeth o arddulliau lluosog er mwyn creu ac ymchwilio rhywbeth newydd.

Hyfforddodd Liam Wallace yn y Northern School of Contemporary Dance gan weithio gyda choreograffwyr fel Odette Hughes, Douglas Thorpe ac Avatâra Ayuso cyn graddio gyda BPA (Anrh) mewn Dawns Gyfoes yn 2015. Ers hynny bu Liam yn datblygu ei ymarfer addysgu mewn dawns gyfoes gan weithio ar ei liwt ei hun gyda gwahanol gwmnïau i ddatblygu arddull addysgu sy’n hyrwyddo agoredrwydd ac unigrywiaeth mewn symudiad.

Mae Liam wedi dysgu nifer fawr o ddosbarthiadau ar gyfer Artis Community Cymuned ac wedi cymryd rhan mewn prosiectau ymchwilio blaenorol drwy’r swydd hon. Mae Liam yn ymuno ag YMCHWILIO 2022 drwy ei brosiect hyfforddiant annibynnol a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cynnwys cysgodi ein Cyfarwyddwr a chael ei fentora drwy ei broses greadigol ei hun. Bydd yn cysgodi Sarah ein Cyfarwyddwr drwy gydol yr wythnos ymchwil a datblygu agored i ddatblygu ei ddealltwriaeth a’i wybodaeth o goreograffeg a chyfarwyddo fel rhan o’i brosiect.

IMG_5933.jpg

Dawnswyr o Ransack

Ransack-2.jpg

Mae Hannah Miles yn artist dawns llawrydd yn seiliedig yn ne ddwyrain Llundain. Graddiodd yn 2019 gydag Anrhydedd BA Dosbarth Cyntaf mewn Dawns Gyfoes o Conservatoire Cerddoriaeth a Dawns Trinity Laban. Ers graddio cafodd Hannah y pleser o weithio ar ffilm ddiweddaraf yr English National Ballet, Cinderella Games. Mae hefyd wedi gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau dawns yn cynnwys: Protein Dance (Invisible Dancing, 2018), State of Flux Theatre (Don’t Touch Me), Errant Company (Tutu Trouble), Flux: Intermedia, Gŵyl Opera de Bauge a Vice Versa Dance Theatre (friEND). Cydweithiodd gyda Laura Weston ar wahanol brosiectau yn cynnwys fel artist cyswllt ar gyfer ‘one, four, six’, darn a gafodd ei greu ar gyfer myfyrwyr yng Nghanolfan Stiwdio Llundain ar gyfer llwyfan Moving Words. 

Ymunodd Hannah â Ransack yn 2020 ac mae wedi cymryd rhan mewn ymchwil a datblygu a phrosiectau cynhyrchu a premiere i ddatblygu ein gwaith diweddaraf ‘Ni a Nhw’ y gobeithiwn fynd ag ef ar daith ar draws Cymru y flwyddyn nesaf!

Lucy Jones yw aelod diweddaraf tîm Ransack ac mae’n byw yn Nhreorci, Rhondda Cynon Taf. Yn dilyn dawnsio yng nghwmni dawns ieuenctid Artis Community Cymuned am nifer o flynyddoedd, aeth Lucy yn ei blaen i hyfforddi ar gwrs gradd yn y Northern School of Contemporary Dance a dilyn hynny drwy weithio gyda’r coreograffwyr Joss Arnott a Sharon Watson gyda Emergence – cwmni ôl-radd Prifysgol Salford. Yn dilyn ei hyfforddiant mae Lucy wedi gweithio gyda Company Chameleon, Kerry Nicholls, Cai Tomos, Miranda Tufnell a Mathieu Geffre a chymryd rhan mewn hyfforddiant datblygu proffesiynol parhaus gyda Chwmni Dawns Ransack, gan ymuno yn eu hymarferion agored o fewn rhaglen hyfforddiant YMCHWILIO yn 2018. Mae hefyd wedi dawnsio gyda Theatr Dawns Phoenix ar gyfer eu Labordy Coreograffwyr a Chyfansoddwyr, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar gyfer eu ‘Laboratori’ ac ymuno â’r rhaglen datblygu artistiaid a mentora gyda Omidaze Productions.ymunodd Lucy â Ransack gan gymryd rhan mewn dau brosiect Ymchwilio. Fe wnaethom wedyn gyflogi Lucy ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus/hyfforddiant yn ein prosiect ymchwil a datblygu ar gyfer ein cynhyrchiad presennol ‘Ni a Nhw’ ac ymunodd â’r tîm fel aelod llawr o’r cwmni eleni. 

128-IMG_7445.jpg
IMGL0134.jpg

Hyfforddodd Alex Marshall Parsons â Phrifysgol Edge Hill, gan raddio yn 2012. Mae'n Gyfarwyddwr Artistig ac wedi perfformio yn ei gwmni ei hun 'Gary and Pel Live Action Cartoon'. Fel dawnsiwr mae wedi perfformio i amrywiaeth o gwmnïau dawns a theatr yn cynnwys Bombastic Dance, Cwmni Dawns Earthfall, Theatr Pena, Kitch n Sync Collective a Chloe Loftus Dance, Gary Clarke Company a Lea Anderson. Mae hefyd wedi addysgu ar gyfer Theatr Dawns Motion House ac roedd yn gyfarwyddwr ymarfer a choreograffydd ar gyfer Theatr Dawns Edge FWD.

Ymunodd Alex â ni yn 2017 ar gyfer ein prosiect Ymchwil a Datblygu tafluniad ffilm ac aeth ymlaen i berfformio yn ein cynyrchiadau ‘Murmur’ a ‘Ni a Nhw’, ynghyd â chyflwyno rhai o’n prosiectau dawns cymunedol, allgymorth ac ysgolion.

Cafodd Caldonia Walton hyfforddiant proffesiynol mewn dawns gyfoes gan raddio gyda BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Ganolfan Studio Llundain. Mae wedi perfformio ar gyfer y corfeograffwyr Zamira Kate Mummery (Dawns ZK), Douglas Thorpe (Theatr Dawns Mad Dogs), Cirque Bijou, Edd Mitton, Hannah Vincent, Dam Van Huynh, Wayne Parsons, Ana Lujan Sanchez a Lizzie J Klotz. Perfformiodd yn y rhediad mis o’r sioe gerdd roc The Quentin Dentin Show yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, a dychwelodd fel cyd-gyfarwyddwr a choreograffydd ar gyfer ei dau rediad cynhyrchu yn y Central, Llundain. Mae wedi gweithio ar wahanol brosiectau gyda Chwmni Hofesh Shechter a Dawns East London,  gyda Theatr Dawns Motionhouse a Birmingham mhac, a pherfformio mewn fideos cerddorol i Eliza and The Bear, Tankus The Henge, Them&Us ac I Am Fya. Mae Caldonia hefyd wedi cael ei mentora gan Dawns Kerry Nicholls trwy ei Rhaglem Mentora Perfformio. Mae Caldy hefyd yn goreograffydd annibynnol ac yn ddiweddar mae wedi creu gwaith theatr byw 'Weight/Wait', a ffilm ddawns 'Alex', sy'n archwilio pwysau meddyliol a chorfforol ein meddyliau.

Ymunodd Caldonia â'r cwmni yn 2018. Ers cymryd rhan yn ein cynhyrchiad teithiol ‘Momenta’ bu’n ymwneud â chyfnod creu ein cynhyrchiad diweddaraf ‘Ni a Nhw’, ynghyd â gweithio gyda’r cwmni i ymchwilio a datblygu gwaith newydd a chyflwyno prosiectau cymunedol ac allgymorth. Mae Caldy yn ymuno â’r prosiect fel cyfarwyddwr ymarfer, gan weithio gyda’n Cyfarwyddwr yn ein hwythnos ymarfer Ymchwil a Datblygu agored.

XT2A5298.jpg

Ymarferwyr  Artis Community Cymuned

IMGL7164.jpg

Linzi Rumph yw Swyddog Datblygu ydd Dawns Artis. Mae’n cydlynu amrywiaeth o raglenni celf, yn ogystal â chyflwyno gweithdai wythnosol. Mae gan Linzi lefel uchel o brofiad mewn iechyd a llesiant gyda datblygiadau mewn Dawns ar gyfer Parkinsons. Mae ganddi radd BA (Anrh) mewn Dawns, TAR ôl-orfodol ac mae wedi mynychu gwahanol gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus yn gysylltiedig â Dawns a Dementia, Therapi Symud, Ymarfer Cynhwysol a Dawns ar gyfer Pobl HÅ·n. Bu Linzi yn gweithio fel rhan o Artis Community Cymuned ers 2010 ac mae’n raddol wedi adeiladu ar ei gyrfa broffesiynol fel ymarferydd dawns cymunedol.

Charlotte Perkins - Ar ôl dod i adnabod Artis Community Cymuned a Ransack drwy gymryd rhan yn ein prosiect Ymchwilio blaenorol yn 2019, mae Charlotte bellach yn diwtor dawns llawrydd i Artis, gan gyflwyno sesiynau ar eu rhaglen dawns tebyg i’w dosbarthiadau ‘movers’ ac ‘IncluDance’, Sesiynau ‘Theatr Dawns True Colours’ mewn canolfannau dydd ar gyfer oedolion anabl, clybiau ar ôl ysgol yn Ysgol Gynradd Hawthorn a’u sesiynau ‘Prosiect Corff Dysgu Creadigol’ mewn ysgolion cynradd. Graddiodd Charlotte o Brifysgol De Cymru gyda gradd BA (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Dawns yn 2019, cyn cwblhau ei gradd Meistr mewn Perfformiad Dawns ym Mhrifysgol Chichester yn 2020/2021. Yn ystod y flwyddyn hon, roedd yn aelod o gwmni teithio ôl-radd mapdance gan berfformio gwaith gan Yael Flexer, Robert Clark, Ceyda Tanc a Joseph Toonga. Aeth Charlotte wedyn i weithio fel artist dawns llawrydd i nifer o goreograffwyr a sefydliadau a chafodd ddatblygiad proffesiynol, mentora a chefnogaeth i greu gwaith digidol ar y gweill, oedd yn ymchwilio’r berthynas rhwng disgrifiad sain a symud ar gyfer sgrîn.

DSC_1446.jpg

Arweinwyr Rhaglen

Sarah Rogers 
Cyfarwyddwr Artistig
Cwmni Dawns Ransack 

Linzi Rumph 
Swyddog Datblygu 
Cymuned Artis

20210819_184108 (1).jpg

Linzi yw Swyddog Datblygu ydd Dawns Artis. Mae’n cydlynu amrywiaeth o raglenni celf, yn ogystal â chyflwyno gweithdai wythnosol a phrosiect ac yn arwain ar y sesiynau hyfforddiant ymarfer cymunedol fel rhan o brosiect YMCHWILIO.

Mae’n adnabod ac yn datblygu cyfleoedd twf ar gyfer Artis Community Cymuned, ac yn cynnal a thyfu cyfranogiad drwy’r rhaglenni celfyddydau. Mae gan Linzi lefel uchel o brofiad mewn iechyd a llesiant gyda datblygiadau mewn Dawns ar gyfer Parkinsons. Mae ganddi radd BA (Anrh) mewn Dawns, TAR ôl-orfodol ac mae wedi mynychu gwahanol gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus yn gysylltiedig â Dawns a Dementia, Therapi Symud, Ymarfer Cynhwysol a Dawns ar gyfer Pobl HÅ·n. Bu Linzi yn gweithio fel rhan o Artis Community Cymuned ers 2010 ac mae’n raddol wedi adeiladu ar ei gyrfa broffesiynol fel ymarferydd dawns cymunedol. Rhan fwyaf gwerth chweil ei swydd yw gweithio gydag amrywiaeth mor eang o bobl, gan greu perthynas gadarnhaol, gweld y newid y gall ei ysgogi ym mywyd rhywun ac yn bwysicach byth, eu gweld yn gwenu. 

HEAD SHOT 1.jpg

Sarah yw sefydlydd Cwmni Dawns Ransack ac mae bellach yn Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Artistig y cwmni. Mae’n cyfarwyddo’r tîm dawnswyr, cerddorion ac artistiaid ffilm i goreograffio gwaith cynyrchiadau teithiol ynghyd â llunio a chyflwyno prosiectau cymunedol, allgymorth, addysg a datblygu cynulleidfa y cwmni. Hyd yma mae wedi arwain y cwmni i greu dau berfformiad proffesiynol llawn hyd; ‘Murmur’ a deithiodd Gymru yn 2019 a’r cynhyrchiad presennol ‘Ni a Nhw’ a gafodd ei bremiere eleni. Bydd Sarah yn arwain ar gyflwyno elfennau hyfforddiant cynhyrchiad dawns a chefnogaeth y prosiect ac yn cymryd rhan yn yr elfennau hyfforddiant ymarfer cymunedol.

Graddiodd Sarah o’r Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance gyda BA Anrh mewn Theatr Dawns yn 2010. Mae wedi perfformio i Rosemary Butcher, Charles Linehan, Kerry Nicholls, Darren Johnston, Will Dorner, Tamsin Fitzgerald (Dawns 2Faced) a Phrosiect The Configur8, a chyflwyno gwaith yn Resolution 2011 fel coreograffydd annibynnol. Yn 2012 cwblhaodd Sarah brentisiaeth gyda Chwmni Dawns Earthfall.Ynghyd â’i gwaith cyfarwyddo a pherfformio proffesiynol mae Sarah yn gweithio ac addysgu’n frwd mewn dawnsio cymunedol ac wedi cyfarwyddo nifer o grwpiau ieuenctid. O’r blaen bu’n Rheolwr Addysg yng Nghwmni Dawns  2Faced, ac ar hyn o bryd mae’n thiwtor dawns i Gymuned Artis. Mae hefyd yn Llysgennad Dawns i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Beth Hopkins photography

Becca Head Photography

bottom of page