Amber Howells
Dawnsiwr
Artist dawns ac awdur o galon Caerdydd yw Amber sy’n dod ag egni bywiog ac angerdd am adrodd straeon i’w gwaith. Gan ymgysylltu’n ddwfn â themâu cymdeithasol ac ecolegol, mae hi’n creu celf sy’n archwilio natur, dynoliaeth, a chysylltiad, gan obeithio ysbrydoli mewnwelediad a sgwrs yn ei chynulleidfaoedd. Ers graddio o Ysgol Ddawns Gyfoes y Gogledd yn 2020, mae Amber wedi cael y pleser o weithio gyda choreograffwyr gan gynnwys Krystal S. Lowe, Anna Watkins, Marcus Jarrell-Willis, Gwyn Emberton, Rita Marcalo a June Campbell-Davies.
Mae ei hangerdd am ddysgu i’w weld yn fwyaf amlwg trwy ei gwaith gyda Heels Empowerment ac fel Swyddog Dawns cwmni ifanc Jones the Dance, Quiet Beats. Mae Amber wedi ymrwymo i integreiddio a hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant yn y celfyddydau ac mae wrth ei bodd yn ymuno â thîm Ransack! Mae Amber yn ymuno â Chwmni Dawns Ransack, eleni, gan gymryd rhan yn ‘Gyda’n Gilydd’ 2024 fel ei phrosiect cyntaf gyda'r cwmni.