Cwmni ballet proffesiynol yw Ballet Cymru â’i ganolfan yng Nghasnewydd. Sefydlwyd y cwmni yn 1986 gan y Cyfarwyddwr Artistig, Darius James OBE, ac mae’n teithio ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Yn ogystal â chynhyrchu perfformiadau proffesiynol, mae gan Ballet Cymru raglen allestyn ac addysg eang ac mae’n genhadaeth ganddo wneud balet yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb. Rydym wrth ein bodd yn cydweithio ag artistiaid a ffurfiau celfyddydol eraill ac mae ein cynyrchiadau diweddar wedi cynnwys dawns y glocsen, sgiliau syrcas awyr, geiriau llafar byw a cherddoriaeth fyw.
​
Gwefan: http://www.welshballet.co.uk
​
Darius James - Cyfarwyddwr Artistig
​
Amy Doughty - Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol
Mae’r cyfweliad dilynol gyda Ballet Cymru yn sôn am eu rôl o fewn y cwmni a’u prosesau coreograffig:
Entertainment
Giselle
​
Dyma’r gwaith nesaf gan Ballet Cymru ar gyfer 2021 ac mae’n ail-gread o’r ballet traddodiadol sydd wedi ei pherfformio o gwmpas y byd ers 1841. Mae Ballet Cymru’n diweddaru’r stori trwy ei gosod yng Nghasnewydd heddiw. Cyfansoddwyd y sgôr gerddorol newydd a’i recordio gan y delynores Catrin Finch a gwnaed y gwisgoedd o ddillad a deunyddiau wedi eu hailgylchu.
Isod mae ychydig o dasgau coreograffi y mae cyfarwyddwr artistig Ballet Cymru wedi eu defnyddio i greu deunydd symud ar gyfer y cynhyrchiad.
​
Tasg 1: Motif LLaw
Cymal symud byr yw’r motif llaw lle mae gan bob symudiad ystyr a chyswllt â’r cymeriad y mae’r cymal yn perthyn iddo. Y fersiwn braich yn unig hwn yw rhan gyntaf y dasg hon. Mae’r ail ran yn parhau’r symudiadau braich gan ychwanegu ychydig o symudiadau coes yn y fan a’r lle, gwahanol ddefnyddiau o lefel a chyfeiriad (ond gan ei gadw’n fach) i gyd-fynd â’r cymal ystum. Mae’r drydedd ran yn ehangu’r dilyniant iddo deithio a symud trwy’r gofod, gan drawsnewid y cymal gwreiddiol yn ddilyniant cyfoethog, i’r corff cyfan, o symud.
Tasg 1
Tasg 2: Deuawd i unawd
Y dasg yw cymryd darn o symudiad a grëwyd yn wreiddiol fel deuawd a’i addasu i fod yn unawd. Bydd yn hawdd trosglwyddo rhai o’r symudiadau tra bydd angen newid rhai eraill i wneud synnwyr i ddim ond un corff berfformio’r symudiad ac efallai y bydd angen ychwanegu symudiadau i lenwi bylchau sydd wedi ymddangos a pharhau llif y dilyniant. Mantais y dechneg goreograffi hon mewn ballet sy’n dilyn naratif yw bod y gynulleidfa’n gallu gwneud y cysylltiad rhwng cymeriadau a’u hemosiynau ac mae’n atgyfnerthu’r cymeriadau sy’n cael eu portreadu.