Prosiect Fflachdorf Gymunedol ‘Us’
Mae pob un o’n cynyrchiadau proffesiynol yn cynnwys golygfa fflachdorf gymunedol pan fydd aelodau cymunedol o bob un o’r ardaloedd y byddwn yn perfformio ynddynt yn ymuno â’r dawnswyr proffesiynol ar y llwyfan yn ystod ein perfformiad!
Eleni gwnaethom lansio ein prosiect fflachdorf gymunedol newydd ar gyfer ein gwaith newydd ‘Us’. Cyflawnir y prosiect drwy bartneriaeth efo ‘Impelo’, sefydliad dawns cymunedol o Bowys. Gwnaethom weithio efo grŵp o bobl ifanc o Bowys a’r cyffiniau drwy ymarferion Zoom er mwyn dechrau ar greu’r olygfa fflachdorf gyda’n dawnswyr proffesiynol. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cwblhau’r ymarferion yn y stiwdio gyda’n gilydd ac yn rhoi perfformiad cyntaf!
Gallwch weld phytiau ffilm isod o’n gweithdai Zoom ar-lein!
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn hefyd wedi cytuno i fod yn Lysgenhadon Ieuenctid i ni.