top of page

 Caldonia Walton

Dawnswraig

IMGL0523.jpg

Cafodd Caldonia hyfforddiant proffesiynol mewn dawns gyfoes gan raddio gyda BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Ganolfan Studio Llundain. Mae wedi perfformio ar gyfer y corfeograffwyr Zamira Kate Mummery (Dawns ZK), Douglas Thorpe (Theatr Dawns Mad Dogs), Cirque Bijou, Edd Mitton, Hannah Vincent, Dam Van Huynh, Wayne Parsons, Ana Lujan Sanchez a Lizzie J Klotz. Perfformiodd yn y rhediad mis o’r sioe gerdd roc The Quentin Dentin Show yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, a dychwelodd fel cyd-gyfarwyddwr a choreograffydd ar gyfer ei dau rediad cynhyrchu yn y Central, Llundain. Mae wedi gweithio ar wahanol brosiectau gyda Chwmni Hofesh Shechter a Dawns East London,  gyda Theatr Dawns Motionhouse a Birmingham mhac, a pherfformio mewn fideos cerddorol i Eliza and The Bear, Tankus The Henge, Them&Us ac I Am Fya. Mae Caldonia hefyd wedi cael ei mentora gan Dawns Kerry Nicholls trwy ei Rhaglem Mentora Perfformio.

Ar ôl cyflwyno’i gwaith coreograffeg annibynnol yn ein Platfform Dawns Arrive yn 2017, mae Caldonia ‘n ymuno â’r cwmni fel dawnswraig i ymchwilio a datblygu gwaith newydd ar gyfer 2019.

bottom of page