top of page

Paul Brown, Cadeirydd y Bwrdd

Ransack Directors PB.jpg

Paul yw Cadeirydd cyfredol Bwrdd Cwmni Ransack Dance. Daw’n wreiddiol o  Bontypŵl ac mae ei gefndir ym maes rheoli prosiectau Technoleg Gwybodaeth. Mae Paul bellach wedi ymddeol, ond yn ystod ei yrfa roedd yn gyflogedig gan gwmni Yswiriant rhyngwladol fel Rheolwr Prosiect. Câi prosiectau eu dewis ar lefel gorfforaethol i gyflawni un o’r canlynol: cynyddu elw, torri costau, neu gwrdd â goblygiadau cyfreithiol. Rôl Paul oedd cynhyrchu cynllun prosiect i weithredu fel y ffin a ddefnyddid yn y pen draw fel y maen prawf i benderfynu a oedd y syniad gwreiddiol wedi dwyn ffrwyth ai peidio. Seiliwyd hyn ar elfennau a benderfynwyd o flaen llaw – nodau,  amcanion, targedau ac, wrth gwrs, cyllideb. Gweithiodd gan mwyaf ar brosiectau oedd yn edrych ar gynyddu incwm trwy gefnogi’r grŵp marchnata a datblygu maint y cwmni trwy integreiddio cwmnïau a gaffaelwyd yn ddiweddar i mewn i’r sefydliad. Digwyddai hyn fel arfer yn Ewrop, ond roedd hefyd yn cynnwys cwmnïau ym Mecsico, yr UDA ac Awstralia.

Sophie Angell-Jones, Aelod o’r Bwrdd

SAJ headshot .jpeg

Yn 2001, graddiodd Sophie o Brifysgol John Moores Lerpwl gyda gradd anrhydedd BA mewn Addysg Gorfforol a Dawns a Chymhwyster Dysgu. Dechreuodd ei gyrfa ym myd addysg yn y Netherhall Sports College, Caer-grawnt – cyfnod a fwynhaodd yn fawr – ond ar ôl 4 blynedd penderfynodd symud yn ôl i Gymru. Dechreuodd Sophie gysylltu gyda Ransack drwy ei rôl flaenorol fel Pennaeth Dysgu a Sgiliau a mentor NQT mewn dawns yn Ysgol Gyfun Treorci, Rhondda Cynon Taf. Bellach mae hi’n athrawes yn Ysgol Uwchradd Whitmore, Y Barri, yn Arweinydd Maes Dawns yng Nghonsortiwm Canolbarth y De, ac yn awdur CBAC.

Nick Banwell, Aelod o’r Bwrdd

Screenshot 2023-03-23 17.37.42~2.png

Ers iddo raddio gydag MA mewn Cynhyrchu Theatr a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Hull, mae Nick Banwell wedi mwynhau gyrfa’n ymestyn dros bedwar degawd mewn rheoli theatr. Gan weithio’n gyntaf gyda’r No 1 Touring, Theatre-in-Education a’r Regional Repertory yn Lloegr, mae ganddo wybodaeth eang o’r sector cyflwyno yng Nghymru fel Cyfarwyddwr yn y Borough Theatre, Y Fenni, am dros 20 mlynedd, ac yn ddiweddar bu’n Gyfarwyddwr Creu Cymru cyn ymddeol yn 2019. Ac yntau’n gyn-aelod o Banel Dawns Cyngor Celfyddydau Cymru a Phwyllgor Rhanbarth De Cymru, bu hefyd yn aelod o fwrdd yr Independent Theatre Council, Creu Cymru a Dance Blast, prosiect dawns a sefydlwyd pan oedd yn bartner gyda’r Carlson Dance Company yn y Borough Theatre yn 1998.

Dr John Graystone, Aelod o’r Bwrdd

John Graystone March 2024 (1).jpg

Mae Dr John Graystone yn arweinydd nodedig ym maes addysg yng Nghymru, a chanddo dros ugain mlynedd o brofiad ym maes addysg bellach ac addysg oedolion. Mae wedi dal nifer o rolau arwyddocaol, megis Prif Weithredwr Colegau Cymru, cyfarwyddwr dros dros y Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus i Oedolion, a Chadeirydd Gweithredol Agored Cymru. Ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Agored Cymru ac Addysg Oedolion Cymru, ac mae’n aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a Chorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, ac mae’n un o lywodraethwyr Coleg Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Dr Graystone wedi gweithio gyda thros 200 o gyrff llywodraethol ac uwch-dimau rheoli ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan ddarparu gwasanaethau ymgynghori. Cydnabuwyd ei gyfraniadau i fyd addysg trwy dderbyn statws Cymrawd er Anrhydedd o Goleg Sir Gâr a Choleg Pen-y-bont, Medal y Canghellor o Brifysgol Morgannwg, a gwobr cyflawniad oes a gyflwynwyd gan y Times Educational Supplement yn 2017.

Angharad Lee, Aelod o’r Bwrdd

ALee.Directorshot2.jpg

Mae Angharad Lee yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd llwyddiannus sy’n gweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau; mae ganddi ddiddordeb mawr yn natblygiad sector y theatr gerdd a’r sector Gymraeg yng Nghymru. A hithau wedi graddio o’r Academi Gerdd Frenhinol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae ei gwaith yn cwmpasu meysydd Theatr Gerdd, Opera a Dramâu yn ogystal â dysgu creadigol. Mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Ar hyn o bryd mae hi’n Bennaeth Actio yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yng Nghaerdydd, yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Artistig  Cynyrchiadau Leeway. Mae hi wedi gweithio i sefydliadau megis Opera Cenedlaethol Cymru fel aelod o’r staff a chyfarwyddwr llawrydd, Theatr Sherman, Arad Goch, Theatrau RhCT, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a llawer mwy, gan gyfarwyddo gweithiau newydd yn ogystal â chynyrchiadau prif- raddfa. Mae ei harbenigedd mewn gweithio gyda chast niferus, cerddoriaeth ac ensemblau – rhywbeth sy’n rhoi pleser mawr iddi.

Fel Cyfarwyddwr Artistig Cynyrchiadau Leeway, cafodd y cynhyrchiad arbennig ac arloesol The Last 5 Years ei ymdrin mewn modd unigryw ac emosiynol gan dalentau anhygoel ym maes theatr gerdd, perfformwyr B/byddar, a choreograffi hyfryd gydag IAP/BSL wedi’i integreiddio gan y coreograffydd Mark Smith, sydd ei hun yn Fyddar. Rhestrwyd The Last 5 Years fel un o 10 uchaf Cynyrchiadau Rhanbarthol 2018 gan y cylchgrawn The Stage.

Kate Moorley-Long, Aelod o’r Bwrdd
 

Kate  Long.JPG

Mae Kate wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol, gyda gwahanol rolau’n cwmpasu meysydd theatr, dawns, ffilm, a’r celfyddydau gweledol. Fel cynhyrchydd llawrydd roedd hi’n gyfrifol am gyflenwi gwyliau ar raddfa fawr a phrosiectau creadigol rhyngwladol ledled y DU; mae ganddi hefyd brofiad eang o redeg sefydliad diwylliannol yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydol Memo. Trwy gydol ei gyrfa mae Kate wedi bod yn eiriolwr dros ddatblygu dawns, fel cynhyrchydd, mentor, ac aelod o Fwrdd nifer o sefydliadau diwylliannol. Mae gan Kate brofiad o godi arian, cynhyrchu incwm, a rheoli prosiectau ar raddfa fawr, yn cynnwys prosiectau adeiladu. Mae hi wedi bod yn angerddol erioed dros roi cyfleoedd i artistiaid a phobl ifanc i’w galluogi i gyflawni eu dyheadau ac i rymuso pobl greadigol i ddatblygu a llwyddo.

Sarah Rogers, Cyfarwyddwr Artistig

9ec2db_a418ea005d7d4b16bd390506d645c50b.jpg

Sarah sy’n arwain gweledigaeth artistig Ransack, gan goreograffu cynyrchiadau gwreiddiol a goruchwylio gwaith cydweithredol gyda dawnswyr, cerddorion, ac artistiaid ffilm. Yn ogystal â chreu cynyrchiadau teithiol – yn cynnwys Murmur (2019) ac Us and Them (2022–24) – mae Sarah wedi cynllunio a chyflenwi rhaglenni datblygiad cymunedol Ransack a mentrau dawns cymunedol, megis y rhaglen Gyda’n Gilydd mewn partneriaeth gydag YMa (gynt Cymuned Artis), a rhaglen allanol hynod lwyddiannus oedd yn cynnwys elfen unigryw y cwmni, sef yr olygfa ‘fflach-dorf’, oedd yn rhoi cyfle i aelodau o gymunedau ledled Cymru berfformio ar y llwyfan ochr yn ochr â’n dawnswyr proffesiynol.

Ynghyd â’i harweinyddiaeth greadigol, mae Sarah hefyd yn rheoli datblygiad strategol Ransack, gweithrediadau, a chodi arian, gan ymgymryd â nifer o rolau gwahanol yn cynnwys Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid, a Chynhyrchydd rhwng cyfnodau ariannu. Mae ei harweinyddiaeth amlddisgyblaethol wedi gosod  Ransack mewn safle gref o fewn ecoleg dawns yng Nghymru.

 

A hithau wedi derbyn hyfforddiant yn y Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance (BA Anrhydedd mewn Theatr Dawns), cwblhaodd Sarah brentisiaeth gyda Chwmni Earthfall Dance a bu’n perfformio gydag artistiaid megis Rosemary Butcher, Charles Linehan, Kerry Nicholls, a 2Faced Dance. Fel coreograffydd, mae hi wedi cyflwyno gwaith yn y  Resolution Festival, Llundain, ac wedi datblygu ymarfer eang mewn addysg dawns a chyfranogiad. Mae profiad Sarah yn cynnwys rolau fel Rheolwr Addysg gyda 2Faced Dance, Llysgennad Dawns gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ac artist arweiniol ar gyfer nifer o brosiectau Ysgolion Creadigol ledled de Cymru. Mae hi’n parhau i gyflwyno dosbarthiadau dawns cynhwysol gyda Dance Blast yn Y Fenni, lle mae hi’n cyfarwyddo’r cwmni oedolion MCDC.

Lottery_funding_strip_landscape_black_tr
artis copy_edited.png

Ransack Dance Company Ltd

Registered Company Number:12039765

YMa, Taff  Street, Pontypridd, CF37 4TS

Ransack Dance Company Photo credits:

Roy Campbell-Moore | Spring Box Photography | Full Mongrel

bottom of page