Hannah Miles
Dawnswraig
Mae Hannah yn artist dawns llawrydd yn seiliedig yn ne ddwyrain Llundain. Graddiodd yn 2019 gydag Anrhydedd BA Dosbarth Cyntaf mewn Dawns Gyfoes o Conservatoire Cerddoriaeth a Dawns Trinity Laban. Ers graddio cafodd Hannah y pleser o weithio ar ffilm ddiweddaraf yr English National Ballet, Cinderella Games. Mae hefyd wedi gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau dawns yn cynnwys: Protein Dance (Invisible Dancing, 2018), State of Flux Theatre (Don’t Touch Me), Errant Company (Tutu Trouble), Flux: Intermedia, Gŵyl Opera de Bauge a Vice Versa Dance Theatre (friEND). Cydweithiodd gyda Laura Weston ar wahanol brosiectau yn cynnwys fel artist cyswllt ar gyfer ‘one, four, six’, darn a gafodd ei greu ar gyfer myfyrwyr yng Nghanolfan Stiwdio Llundain ar gyfer llwyfan Moving Words.
Hannah yw un o’r aelodau diweddaraf i ymuno â’r tîm, gan ddod atom ym mis Chwefror 2020. Mae’n edrych ymlaen at ymuno â Chwmni Dawns Ransack i ymchwilio a datblygu gwaith newydd.