top of page

Hugh Griffiths 

IMG_2276.JPG

Mae Hugh wedi gweithio fel rhan o dîm addysg Ransack ers nifer o flynyddoedd – yn darparu gweithdai ffilm fel rhan o’n hysgol haf flynyddol, ‘Ransack Your Stories’. Mae e hefyd yn gweithio gyda’r cwmni proffesiynol yn creu rhaglenni dogfen a ffilmiau rhagflas o’n prosiectau hyfforddi a’n cynyrchiadau teithiol proffesiynol! Bydd Hugh yn arwain ein ‘Clwb Ffilm Ransack’ newydd a sesiynau ffilm fel rhan o’r ysgol haf eleni.

 

“Shwmae, Hugh ydw i! Dwi wedi bod yn darparu prosiectau ffilm cymunedol ledled RhCT ers 2008. Dros y cyfnod hwn dwi wedi gweithio gyda nifer o bartneriaid gwych, fel y British Film Institute, Ffilm Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Zoom Cymru a Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) RhCT. Ro’n i’n arfer gweithio fel microbiolegydd, ond nawr dwi’n gwneud hyn! Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda phobl o bob oedran a chefndir, cyfuno gwahanol elfennau o gerddoriaeth, ac arbrofi gyda syniadau i weld beth ddaw allan o’r holl anhrefn creadigol yma! Ffuglen, rhaglenni dogfen, tŷ-celf, fideos cerdd, hanes lleol, gwyddoniaeth . . . mae’r cyfan yn grêt!”

Mae mwy o fanylion am ein sesiynau clwb ffilm newydd wythnosol gyda Hugh yma:

bottom of page