top of page

Galwad Agored am Dîm Technegol Llawrydd:
Rheolwr/Technegydd Goleuo a Pheiriannydd Sain

Mae Cwmni Dawns Ransack yn recriwtio Rheolwr Technegol/Technegydd Goleuo a Pheiriannydd Sain profiadol ar gyfer ein taith yng ngwanwyn 2027 o ‘Us and Them’, sef cynhyrchiad theatr ddawns dwbl i gyfeiliant cerddoriaeth fyw. (Teithiwyd yn flaenorol yn 2023/24.)

24-IMG_7242.jpg

Mae cyfrifoldebau’r Rheolwr Technegol/Dylunydd Goleuo yn cynnwys y canlynol:

 

  • Mynychu ymarferion yn ein canolfan ym Mhontypridd i wylio a dysgu’r perfformiad ar gyfer creu cynlluniau goleuo/taflen ciw. 

  • Creu cynllun goleuo/taflen ciw ar gyfer y sioe (gan ddefnyddio cynlluniau blaenorol fel canllaw a gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Artistig i ddatblygu syniadau). Cydweithio’n agos gyda’n Cyfarwyddwr a’n Peiriannydd Sain ni i drefnu a llogi offer technegol priodol ar gyfer y daith.

  • Dyfeisio amserlenni ymarferion technegol ac atodiadau technegol, a chysylltu â thimau technegol mewnol y canolfannau ynghylch amserlenni ac offer mewnol ar gyfer y perfformiadau.

  • Trefnu asesiadau risg ar gyfer ymarferion technegol a pherfformiadau.

  • Trefnu cludiant ar gyfer set y cynhyrchiad.

  • Rheoli’r tîm technegol ar daith (Peiriannydd Sain a thechnegwyr mewnol).

  • Rigio a ffocysu’r goleuo yn y canolfannau.

  • Rheoli’r ymarferion technegol ac ymarferion gwisg ar daith.

  • Goleuo’r perfformiadau ar daith (fel technegydd goleuo).

Mae cyfrifoldebau’r Peiriannydd Sain yn cynnwys:

  • Mynychu ein hymarferion yn ein canolfan ym Mhontypridd i wylio a dysgu’r perfformiad er mwyn creu/dysgu rigiau sain a chynllun sain/taflenni ciw.

  • Cydweithredu â’r Rheolwr Technegol/Technegydd Goleuo i sicrhau llwyddiant yr elfennau technegol sy’n berthnasol i’r sain.

  • Mae hyn yn cynnwys traciau wedi eu recordio o flaen llaw, cerddoriaeth fyw, a defnyddio mics radio a chlustffonau i alluogi dawnswyr i gyflwyno geiriau llafar yn ystod y perfformiad.

  • Gweithio’n agos gyda’r cerddorion i sicrhau bod y cyfnod gosod/cyfnod technegol/gwiriadau sain yn ystod ymarferion yn rhedeg yn esmwyth a didrafferth, a bod y sain yn effeithiol yn ystod y perfformiadau.

  • Cysylltu â’r canolfannau ynghylch offer cerdd mewnol a’r cyfnod technegol, a sicrhau bod y Rheolwr Technegol yn derbyn gwybodaeth ynghylch unrhyw offer y mae angen i’r cwmni ei logi.

  • Cefnogi a rheoli/datrys unrhyw broblemau a allai godi mewn perthynas â thechnoleg cerdd pan yn teithio i wahanol ganolfannau.

  • Defnyddio Q-lab yn ystod perfformiadau ar gyfer traciau cefndir, a rheoli lefelau ac ansawdd sain cerddoriaeth fyw a geiriau llafar yn ystod perfformiadau.

  • Ceir cymorth gan dechnegwyr theatr mewnol ar gyfer pob perfformiad ym mhob canolfan.

 

Dyddiadau a Lleoliadau:

Neilltuir un diwrnod ar gyfer cyfarfod cynllunio ac ymweld ag ymarferion (yng nghanolfan y cwmni – YMa, Pontypridd) rhan amser yn ystod pythefnos olaf Ionawr 2027 (i’w drefnu yn ôl argaeledd ac amserlenni ymarferion).

Wythnos Gynhyrchu: Dydd Iau 28 Ionawr, mynychu ymarferion yn YMa, Pontypridd.

Dydd Llun 1 Chwefror i ddydd Iau 4 Chwefror (perfformiad premiere) yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon.

 

Dyddiadau’r Daith (Gwanwyn 2027)

Mae gan bob canolfan un dyddiad perfformio. Yna caiff rhai canolfannau 2 ddiwrnod o gyfnod gosod/ymarferion a chaiff eraill 1 diwrnod o gyfnod gosod/ymarferion o flaen llaw:

  • Dydd Mawrth 16 i ddydd Iau 18 Chwefror: Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog (ger

  • Wrecsam)

  • Dydd Mawrth 23 Chwefror i ddydd Iau 25 Chwefror: Theatr Soar, Merthyr

  • Dydd Mawrth 2 Mawrth i ddydd Iau 4 Mawrth: Theatr Ffwrnes, Llanelli

  • Dydd Llun 8 Mawrth i ddydd Mawrth 9 Mawrth: Malvern Theatres

  • Dydd Mercher 17 Mawrth i ddydd Iau 18 Mawrth: Canolfan y Celfyddydau, Y Barri

 

Ffi:

Rheolwr Technegol/Technegydd Goleuo yn seiliedig ar £750 yr wythnos (wythnos gynhyrchu) a £225 cyfradd dyddiol (dyddiau ar daith mewn theatrau). Cyfanswm y contract: £3,900.

Peiriannydd Sain yn seiliedig ar £631 yr wythnos (wythnos gynhyrchu) a £180 cyfradd dyddiol (dyddiau ar daith mewn theatrau). Cyfanswm y contract: £3,151.

Yn ogystal, darperir costau teithio, llety a per diems ar gyfer canolfannau’r daith.

Rhoddir croeso arbennig i geisiadau gan y rhai sy’n teimlo eu bod yn cael eu tan-gynrychioli yn y diwydiant, yn cynnwys pobl anabl, siaradwyr Cymraeg, ac aelodau o’r mwyafrif byd-eang.

Wrth gyflwyno cais, mae croeso i chi drafod unrhyw gymorth mynediad sydd ei angen arnoch.

I wneud cais, gofynnir i chi anfon eich CV a llythyr atodol byr yn nodi pa rôl yr hoffech ymgeisio amdani, a sut byddai eich profiad hyd yma yn eich galluogi i ymgymryd â’r rôl honno i safon uchel, i’r cyfeiriad hwn: info@ransackdance.co.uk

Mae croeso hefyd i chi ddefnyddio’r cyfeiriad ebost hwn i gysylltu gydag unrhyw gwestiwn cyn cyflwyno cais.

 

Dyddiad olaf i gyflwyno cais: Dydd Mawrth 30 Mehefin 5yp.

Prosiect ychwanegol posibl yn yr hydref 2026:

Rydym hefyd yn cynllunio i gynhyrchu a chyflwyno premiere o gynhyrchiad newydd yn yr hydref 2026 (yn dibynnu ar gyllid) gydag argaeledd yn angenrheidiol o 19 i 22 Hydref, ac o 2 i 4 Tachwedd 2026 (2 berfformiad mewn 2 ganolfan yn ne Cymru). Byddwn yn recriwtio am yr un rolau ar gyfer y prosiect hwn.

Oherwydd hynny, mae yna bosibilrwydd y gallai’r artistiaid sy’n gweithio ar y prosiect hwn

weithio yn yr un rolau ar draws y ddau brosiect. Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, gofynnir i

chi roi gwybod i ni a fyddech ar gael, ac a oes gennych ddiddordeb yn y prosiect hwn, fel bod

modd i ni anfon rhagor o wybodaeth atoch.

Lottery_funding_strip_landscape_black_tr
artis copy_edited.png

Ransack Dance Company Ltd

Registered Company Number:12039765

YMa, Taff  Street, Pontypridd, CF37 4TS

Ransack Dance Company Photo credits:

Roy Campbell-Moore | Spring Box Photography | Full Mongrel

bottom of page