Mae’r Gymraes Rachel Greer yn artist symudiadau ac eiriolwr dros lesiant. Bu’n datblygu iaith symudiadau personol sy’n defnyddio elfennau o Krump, dawns gyfoes, a theatr ffisegol. Ers iddi raddio o’r rhaglen MA mewn Perfformio Dawns ac Ymarferion Proffesiynol (Emergence) yn 2023, mae hi wedi gweithio fel perfformiwr, athrawes a chynhyrchydd ar gyfer y Daisy Roots Movement. Yn fwyaf arbennig, perfformiodd gyda 4amKru – deuawd jyngl fyw – ar eu taith ‘Incognito’. Bu hefyd yn rhan o brosiect Cwmni Dawns Ransack, ‘Explore on tour’, mewn partneriaeth gyda Dance Blast yn 2023, gyda rhan ohono’n cynnwys ymuno â phroses R&D Ransack ar gyfer y gwaith newydd ‘States of Being’ Ym mis Mawrth 2024, cymerodd ran ym mhrosiect Ransack,’Arrive at Home/Cyrraedd Adref’ i goreograffu a chynhyrchu ei gwaith cyntaf, ‘Two People, Four Conversations’. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno cafodd ei chomisiynu gan Dîm Collective Cymru i gynhyrchu ei gwaith ei hun, ‘What’s the Wi-fi password’, a berfformir fel rhan o’u City Social’s Scratch Night.
Mae Rachel nawr yn ymuno â thîm Ransack fel dawnsiwr cwmni yng ngwanwyn 2026 ar gyfer proses derfynol R&D y gwaith teithiol newydd, ‘States of Being’ y cynllunnir i’w gynhyrchu’n llawn a’i deithio yn 2028.






