top of page
E0IkbMxWYAIx764.jpeg

Mae Jones y Ddawns yn gwneud, rhannu a datblygu theatr dawns ansawdd uchel a beiddgar yng Nghymru ac o Gymru, gan weithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ar brosiectau gyda llu o artistiaid dawns, cymunedau a chydweithwyr rhyngwladol. Mae hefyd yn creu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc Byddar a Thrwm eu Clyw a/neu sy’n byw yng ngefn gwlad y Canolbarth i gymryd rhan mewn prosiectau dawns creadigol dan arweiniad dawnswyr proffesiynol. 

Dechreuodd y cwmni fel Gwyn Emberton Dance yn 2015, gyda sioeau a gafodd eu creu gan Gwyn Emberton fel yr unig goreograffydd, yn gweithio gyda dawnswyr o Gymru a thramor a gyda thimau creadigol gwych o bob rhan o Brydain. 

Dros y blynyddoedd mae’r cwmni wedi gwahodd artistiaid eraill i arwain ar brosiectau ac mae wedi ehangu ei nodau ac uchelgais i gynnwys mwy o bobl. Arweiniodd hyn at i’r cwmni newid ei enw yn Ebrill 2021 i Jones y Ddawns. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf maent yn bwriadu creu mwy o gyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid dawns i gymryd rhan ac arwain prosiectau. 

Mae mwy o wybodaeth am Jones y Ddawns ar gael ar eu gwefan newydd (www.jonesthedance.com). Gallwch hefyd weld rhai o’r artistiaid dawns y maent wedi bod yn gweithio gyda hwy’n ddiweddar ar eu prosiectau. 

 

Gallwch hefyd ddarllen am waith blaenorol Gwyn Emberton Dance yma.

Mae’r cyfweliad dilynol gyda Gwyn Emberton yn esbonio mwy am ei rôl gyda’r cwmni a’i brosesau coreograffig:

You Chose, WHAT?

You Chose, WHAT? yw prosiect presennol Jones y Ddawns sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Dechreuodd gwaith ar You Chose, WHAT? yn 2019 fel prosiect ymchwil a datblygu bach gyda’r dawnswyr Hampus Bergenheim ac Osian Meilir, a myfyrwyr dawns 3ydd blwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Y bwriad oedd mynd i gynhyrchiad a theithio yn 2020 ond cafodd hynny ei ganslo am resymau amlwg. Gyda chefnogaeth grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gallodd y cwmni gynnal tair wythnos bellach o ymchwil a datblygu ym mis Tachwedd 2020 gyda chwe dawnsiwr a’r awdur/actor Keiron Self. Disgwylir y bydd y gwaith yn parhau yn 2021 i fod yn barod i gynulleidfaoedd ddechrau 2022. 

Yn hytrach na taith theatr yn ôl y bwriad gwreiddiol bydd 'You Chose WHAT? yn ffilm dawns ryngweithiol i’w phrofi mewn lleoedd newydd ac anarferol. Bydd yn cwestiynu syniadau am ewyllys rhydd a ph’un oes gennym y rhyddid i ddewis ai peidio mewn gwirionedd. Caiff ei ysbrydoli gan straeon a’i greu gyda phobl ifanc o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli. Mae Gwyn yn cydweithio gyda’r dawnswyr a’r timau creadigol a chaiff y rhan fwyaf o’r coreograffeg ei ddatblygu drwy dasgau a gwaith byrfyfyr. Bydd y tasgau yn wahanol ar gyfer pob un o’r gweithiau a chaiff ei greu gyda’r rhai sydd yn yr ystafell ar y pryd. 

 

Islaw mae dau o’r tasgau coreograffeg y gwnaeth Gwyn, y dawnswyr a Keiron Self eu hymchwilio yn nau gyfnod ymchwil a datblygu You Chose, What? 

 

Rhowch gynnig ar y tasgau hyn ac mae croeso i chi eu haddasu fel sydd angen.

Tasg 1: ‘ing’ 

Tasg 1: ‘ing’ 

 

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys gweithio gyda berfau Saesneg sy’n gorffen gyda ‘ing’. Mae nifer o gamau yn y dasg sy’n datblygu o’i gilydd. Mae’n well dechrau gyda Rhan A ac 

adeiladu ar hyn ond nid yw’n hanfodol dilyn y fformat yma. 

 

Rhai o’r geiriau Saesneg a ddefnyddiwyd oedd .. 

Rolling 

Folding 

Shaking 

Collapsing 

Staking 

Holding

Gallech ddefnyddio eich geiriau ‘ing’ eich hun – efallai un sy’n perthyn o ran cyd-destun i’ch gwaith eich hun. Dewiswch tua 6 i 8 gair.

Entertainment

Rhan A. 

 

Y cam cyntaf yw ymchwilio ansawdd y gair ‘ing’ yn unigol. Er enghraifft, gyda Rolling (Rholio) gallwch rolio eich esgyrn y rhai yn eich breichiau, dwylo, traed, pelfis, gwddf neu hyd yn oed eich tafod ac ati. Efallai y gallech ddechrau gyda dim ond un rhan o’r corff, yna symud i rolio rhan arall, ystyried ansawdd y rolio, sylwi ar y teimladau mae’n eu rhoi i chi. Efallai y gallech anfon y rholio ar hyd y corff i rannau eraill. Rhowch amser i chi’ch hunan ymchwilio hyn. 

 

Pan fyddwch yn barod rhowch gynnig ar y gair Folding (Plygu). Yn cyntaf ymchwiliwch lle mae plygiadau amlwg yn y corff h.y. eich cymalau – pen-ôl, pen-elin, pen-glin, migwrn. Yna ceisiwch blygu lleoedd eraill hefyd ... rhai gyda phlygiadau llai amlwg e.e. clun, asen, clust. Cwestiynwch pa ansawdd gaiff ei greu, ystyried y teimladau a gweithredoedd y rhannau sy’n amlwg yn plygu a’r llai amlwg. Sut mae’r teimlad a’r weithred yma’n wahanol i Rolio? Beth ydych chi’n sylwi am y gwahaniaeth mewn ansawdd? A oes gwahaniaeth mewn ansawdd? Os na, pam felly? 

 

Unwaith eich bod wedi ymchwilio ychydig ewch i’r gair nesaf ac ailadrodd. Nodyn – peidiwch â phoeni os nad yw rhywbeth yn gweithio i chi.

Rhan B.

 

Rhowch gynnig ar ddau air ‘-ing’ ar unwaith. Beth mae hyn yn ei greu yn y corff? Sut mae hyn yn teimlo? A oes cydymffurfiaeth? Gwrthdaro? Sylwch a chwestiynwch. 

 

Faint o eiriau –ing allwch chi eu gwneud ar yr un pryd? Beth sy’n digwydd?

Rhan C.

 

Nawr symudwch i barau. 

Gellir gwneud hyn mewn cyswllt (delfrydol) neu gellir ei wneud o bell (meddyliwch am ofod negyddol). 

 

Dewiswch un o’r geiriau ‘ing’ ar gyfer dau/dwy o ddawnswyr i ymchwilio gyda’i gilydd. 

 

Yna gofynnwch iddynt roi cynnig ar y geiriau eraill. Ceisiwch eiriau gwahanol i’ch gilydd. 

 

Sylwch beth sy’n digwydd, yr hyn rydych yn ei hoffi, beth sy’n gweithio i chi.

Rhan D. 

Eto, mewn parau. 

Rhowch restr o eiriau yr un i’r dawnswyr – dylent fod yn wahanol eiriau ‘ing’ neu o leiaf mewn trefn wahanol. Mae pedwar yn rhif da i ddechrau. Labelwch nhw o A i Ch. Cychwynnwch yn A, yna newid i B, C ac yna Ch, fel y dymunwch. Gallwch bob amser fynd yn ôl at A, B ac yn y blaen. Ymchwiliwch y strwythur hwn ac ymchwilio tempo newidiadau rhwng llythrennau/geiriau –ing. 

 

Nodyn – Gadewch iddynt lifo a riffio ychydig. Sylwch ar yr arddulliau symud, ansoddau a phatrymau o gymharu â’i gilydd.

Rhan E. 

Dyma ble mae’r rhan anodd i fi. Gosod. 

Sut mae gosod deunydd byrfyfyr? 

 

Rwyf naill ai’n recordio byrfyfyr a gweithio gyda’r dawnswyr i osod a chwarae gyda’r deunydd mewn ffordd mwy gerfluniol yn ddiweddarach neu ofyn i’r dawnswyr ei osod gam wrth gam ac yna ei lunio gyda’i gilydd.

 

Dyma enghraifft o –ing ar ôl y cam gosod, a gafodd ei greu gyda Hampus Bergenheim a Jade Roberts.

Tasg 2: Testun a Chyfuno Symudiad 

(Mae hyn fel rhwbio eich bol a chrafu eich pen.) 

 

Meddyliwch am ddewis (neu eich pwnc/thema); y dewisiadau a wnewch bob dydd; y dewisiadau mawr, sy’n effeithio ar fywyd; a’r rhai sy’n ymddangos eu bod yn cael eu gwneud drosoch. 

 

Ysgrifennwch am sefyllfa o ble wnaethoch ddewis neu gyfres o ddewisiadau – gall fod yn unrhyw beth y teimlwch yn gysurus gydag ef, gall yr ysgrifennu fod mewn unrhyw arddull a ddymunwch – o bwyntiau bwled i draethawd. Gall fod yn stori unigol neu rywbeth mwy athronyddol am ddewis, ychydig yn wleidyddol, neu hyd yn oed ddoniol. 

 

Darllenwch ef yn ôl. Gwiriwch ef am rhythm, synnwyr neu lol. Mwynhewch ei gynnwys. Peidiwch ei wneud yn rhy hir, mae tua 45 eiliad yn ddigon i ddechrau ar gyfer y cynnig cyntaf. 

 

Yn nesaf gofynnwch i’r dawnswyr greu darn o ddeunydd symud yn seiliedig ar eich testun. Gall fod yn ddehongliad ystum/llythrennnol neu’n seiliedig ar pa mor bersain yw’r 

testun/y rhythm. Gosodwch y deunydd hwn a’i ddysgu’n dda. 

 

Dysgwch y testun ar eich cof. 

 

Nawr dyma darn rwbio’r bol, crafu’r pen – cyfunwch y testun gyda’r darn o ddeunydd symud. Gwelwch beth sy’n digwydd i ystyr y testun, beth y gallwch ei dynnu, beth sydd ei angen, beth nad sydd ei angen, cymerwch ddarn allan, rhoi cynnig arno mewn gwahanol dempo, gyda gwahanol nodweddion ... Gofynnwch i’ch hunan beth mae’n ei olygu i chi... 

 

Yn You Chose, WHAT? buom yn ymchwilio llawer mwy ar destun nag o’r blaen. I mi mae’n rhaid i destun gyfeirio at y corff. Mae’n rhaid cael cysylltiad gyda’r corff neu reswm am iddo fod yno ...

bottom of page