Graddiodd Ellie o LIPA (The Liverpool Institute for Performing Arts) yn 2022, lle bu’n astudio dawns a theatr gerdd. Ar ôl hynny ymunodd â Ballet Cymru 2, yn gweithio gyda Marcus Jarrell Willis, Darius James OBE a Sanea Singh, cyn cwblhau JV2 gyda Chwmni Dawns Jasmin Vardimon. Mae credydau llawrydd Ellie’n cynnwys nifer o gyfnodau creu ‘R&D’ gydag artistiaid annibynnol, nifer o brosiectau ffilm dawns (yr uchafbwynt oedd coreograffu a dawnsio ar gyfer Taith Fyd-eang The The’s: ‘The Ensouled’) a thaith yn y DU gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae Ellie hefyd yn dawnsio gyda Chwmni Dawns Rebelo (André Rebelo), Cwmni Dawns Amy Foskett, a Theatr Ddawns Autin. Yn ogystal â pherfformio, mae Ellie’n athrawes frwdfrydig ac ymarferydd dawns gymunedol, a chanddi ddiddordeb arbennig mewn dawns ar gyfer y
genhedlaeth hÅ·n a rhai sy’n byw gyda’r cyflwr Parkinson’s.
Mae Ellie’n ymuno â Chwmni Dawns Ransack yn dilyn ei chyfraniad fel artist annibynnol yn ein rhaglen hyfforddi ‘Explore’ gydag YMa, Pontypridd, sy’n golygu ymarferion R&D a rhannu ym mherfformiad ein darn newydd ar gyfer plant. Bydd hefyd yn ymuno â chast ein cynhyrchiad teithiol, ‘Us and Them’, sy’n cael ei gynllunio ar gyfer
aildeithio yng ngwanwyn 2027.






_JPEG.jpeg)