top of page

Sarah Rogers
Cyfarwyddwr Artistig
Ransack Dance Company 

Mae Cwmni Dawns Ransack yn gwmni cynhyrchu theatr dawns sydd â’i bencadlys ym Pontypridd. Mae ein gwaith yn cynnwys dawns fyw, cerddoriaeth a ffilm a hefyd yn aml yn cynnwys y gair llafar. Mae ein gwaith yn gorfforol iawn gyda dull cyfoes athletaidd. Rydym wedyn yn partneru hyn gyda dull cynnil, barddonol a ‘dynol’ iawn i greu ein harddull unigryw. Mae gennym ffocws cymunedol mawr yn ein gwaith, yn defnyddio naratifau a straeon gan aelodau’r gymuned y gweithiwn gyda hi i fod yn sail i’r naratifau a’r llefaru yn ein perfformiadau proffesiynol a gwahodd grwpiau cymunedol i ymuno â ni ar y llwyfan y berfformio yn ein golygfeydd ‘criw fflach’ ynghyd â’n cast proffesiynol.

​

Mae mwy o wybodaeth am y cwmni ar gael ar ein tudalen ‘amdanom’ yma.

Mae hefyd fwy o wybodaeth am ein perfformwyr ym

Mae’r cyfweliad dilynol gyda’n Cyfarwyddwr Artistig yn sôn am ei rôl o fewn y cwmni a’i phrosesau coreograffig:

Momenta: 

​

Dyma waith diweddaraf Ransack, sy’n rhan o’n cynhyrchiad bil dwbl ‘Murmur’. Ysbrydolwyd y gwaith gan gyfweliad teledu gyda’r actor Marlon Brando, lle mae’n siarad am actio fel ‘dull o oroesi’ ac yn esbonio sut ydym yn ‘actio bob dydd i achub ein bywydau’. 

Islaw mae rhai tasgau coreograffig a ddefnyddiodd Sarah gyda dawnswyr Ransack i greu deunydd symud o fewn y gwaith. Gallwch roi cynnig ar ddefnyddio’r adnoddau yn y dolennau islaw a/neu eu trosi i ddefnyddio eich adnoddau a’ch ysbrydoliaeth eich hun ar gyfer symud o fewn eich gwaith eich hun.

​

Tasg 1: Dawnsfeydd Unigol Rhaeadr

Wedi eu perfformio fel blaendir i ddelweddau ffilm grymus o raeadr dŵr yn tasgu, caiff y dawnsfeydd eu gyrru gan y cyfweliad gyda’r actor Marlon Brando, a ysbrydolodd y darn. Fe wnaeth pob dawnsiwr greu eu dawns unigol eu hunain yn seiliedig ar eiriau ac ymadroddion allweddol o’r cyfweliad.

​

Gellir trosglwyddo’r dasg hon i unrhyw destun neu sgript llafar neu ysgrifenedig gyda’ch dawnswyr; ffordd wych i gysylltu symudiad gyda phwynt angor o ysbrydoliaeth.

Haen 1: Gofyn i’ch dawnswyr wrando ar a/neu ddarllen y geiriad a dewis 5 gair neu frawddeg sy’n sefyll mas iddynt.

Gallwch roi cynnig ar ddefnyddio’r sgript o’r cyfweliad i brofi’r dasg cyn defnyddio eich geiriad eich hun os dymunwch.

 

Haen 2: Cyfarwyddo’r dawnswyr i greu symudiad i gynrychioli pob gair/brawddeg y gwnaethant eu dewis. Dylid cadw symudiadau yn fach ac yn ‘agos atoch’ ar gyfer yr haen yma.

Haen 3: Tyfu’r ddawns unigol derfynol – nawr mae eu 5 symudiad gan y dawnswyr, gofynnwch iddynt weithio ar ailadrodd yr ymadrodd 3 gwaith i ffurfio eu dawns unigol derfynol .... bob tro y caiff ei hailadrodd mae’r symudiad yn tyfu mewn maint a chyflymder a gall y symudiadau esblygu yn rhywbeth eithaf gwahanol a mwy athletig na’r fersiwn cyntaf.

 

Tasg 2: 'Roeddwn eisiau dweud wrthyt ti’

Golygfa cyswllt grŵp wedi ei goreograffu yn cynnwys symudiad a gair llafar a gafodd ei greu o dasg fyrfyfyr. Cafodd y coreograffeg ei adeiladu drwy haenau byrfyfyr wedi eu cyfarwyddo. Fe wnaethom wedyn ganfod patrymau a delweddau oedd yn gweithio’n arbennig o fewn hyn er mwyn gosod y symudiad.

IMGL0474.jpg
IMGL0419.jpg
IMGL0398.jpg
IMGL0381.jpg

Haen 1: Paratoi llinellau – Meddwl am gwestiwn yr hoffech i’ch dawnswyr ei ateb sy’n gysylltiedig gyda’r thema neu naratif yr ydych yn gweithio arni gyda e.e. ein cwestiwn oedd ‘pryd ydych chi wirioneddol fod eisiau dweud rhywbeth wrth rywun, ond y gwnaethoch ddal yn ôl a phenderfynu peidio?’ Gofyn i bob dysgwr ysgrifennu eu hatebion ar ddarn bach o bapur neu nodyn gludiog gyda phob brawddeg yn dechrau yr un fath, e.e. ein hymadrodd cyntaf oedd ‘Roeddwn eisiau dweud wrthyt ti ...’ (pob dawnsiwr yn ysgrifennu tua 4 i 5 ateb ar ddarn o bapur ar wahân). Yna rhoi o’r neilltu i’w ddefnyddio yn ddiweddarach yn y gweithgaredd byrfyfyr. 

Haen 2: Y gêm ‘syrthio’ – Dawnswyr yn cerdded neu redeg o amgylch y gofod. Gall rhywun weiddi ‘syrthio’ ar unrhyw bwynt a syrthio i’r llawr (cofiwch blygu eich pen-gliniau a gostwng eich pelfis yn gyntaf i osgoi anaf). Mae’r dawnswyr eraill yn rhedeg i’w dal wrth iddynt syrthio. Gallant wedyn naill ai eu gostwng yn ofalus i’r llawr neu ddewis eu codi yn uchel a mynd â nhw i ofod newydd yn yr ystafell. Chwaraewch gyda’r gêm yma a gadael iddo setlo. Wrth i’r coreograffwyr ddal ati i gyfarwyddo’r dawnswyr drwy ofyn cwestiynau gan eu galluogi i ganfod llawer o opsiynau symudiad – e.e. a fedrir pasio’r ‘syrthiwr’ o un dawnsiwr i’r nesaf? Beth sy’n digwydd os nad oes neb yn rhedeg atynt?

Haen 3: Ychwanegu lleferydd – Dod â’r nodiadau gludiog y gwnaethoch eu rhoi o’r neilltu a’u lledaenu o amgylch llawr y gofod. Byddwch hefyd angen microffon neu eitem i gynrychioli un (fe wnaethom ni ddefnyddio potel ddŵr!). Daliwch ati i chwarae’r gêm, ond  tro hwn mae’r dawnsiwr sydd eisiau syrthio yn dal y ‘microffon’, yn codi un o’r nodiadau ac yn ei ddarllen i ddawnsiwr arall. Yna maen nhw’n awtomatig yn dod y ‘syrthiwr’ ac mae’r grŵp unwaith eto yn mynd â nhw i’r llawr neu’n eu codi i ofod newydd. Ar yr un pryd mae rhywun yn dwyn y ‘microffon’ oddi arnynt ac yn codi nodyn arall, gan ddod y siaradwr, ac yna’r ‘syrthiwr’.

Efallai y byddwch yn cadw’r dasg uchod yn fyrfyfyr neu ddechrau defnyddio delweddau o’r gweithredu byrfyfyr sy’n gweithio’n neilltuol o dda ac yn ail-greu i’w osod i goreograffeg. Fel datblygiad gallwch wedyn ychwanegu enydau o goreograffeg gosod unsain rhwng y cyswllt a’r codi (yn lle’r cerdded/rhedeg yn y gêm). Yn yr un modd gallech osod trefn y llinellau o naratifau neilltuol a pherthynas sy’n dod i’r amlwg o’r gweithredu byrfyfyr a mynd â’r nodiadau ysgrifenedig, neu penderfynu cadw’r llefaru’n fyrfyfyr o ran y drefn.

69991961_3278883085462986_38442804175322
40517730_2411390622212241_90656816683370
69694995_3278883215462973_48844515144263
69736549_3278883092129652_40799060514224
bottom of page