Mae Maddie Jones, sy’n dod o Gymru, yn lleisydd/cyfansoddwr caneuon, aml-offerynnwr a chynhyrchydd. Gan ddefnyddio ystod o allweddellau, synths ac offer arall, a gweithio trwy Ableton, mae hi’n creu a pherfformio pop celf electronig. Chwaraewyd ei gwaith ar BBC Radio 6 Music, 1 a 2, cynhwyswyd hi’n aml ar restr chwarae BBC Radio Wales, ac ymddangosodd mewn amryw o wyliau yn cynnwys Glastonbury a Boomtown. Yn ddiweddar, cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol o’r rhaglen ‘Y Llais’, a ddarlledwyd ar S4C, a pherfformio fel lleisydd cefndir i Imogen Heap yn y Roundhouse, Llundain.
Ers peth amser bellach, mae Maddie wedi cyflwyno gweithdai cerdd cynhwysol fel rhan o’n hysgolion haf blynyddol, gan gydweithredu gyda’n Cyfarwyddwr Artistig i gyd-greu perfformiadau sy’n defnyddio cerddoriaeth a dawns fyw gyda’r cyfranwyr ifanc. Ymunodd Maddie â’r tîm cynhyrchu proffesiynol yn 2026, gan ymgymryd â rôl cyfansoddwr cynorthwyol a cherddor byw yn ein cynhyrchiad newydd ‘States of Being’, a’n taith yn 2027 o ‘Us and Them’.



