Y rhaglen Egwylion Digidol yw ein rhaglen ddigidol newydd, a gafodd ei chreu mewn ymateb i’r pandemig Covid-19 a rheolau ymbellhau cymdeithasol. Derbyniodd y rhaglen gyllid o gynllun grant ymsefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru. Anelwn gadw mewn cysylltiad gyda’n cynulleidfaoedd a’r sawl sy’n cymryd rhan yn y cyfnod hwn tra hefyd yn parhau i gynllunio a chreu ein gwaith newydd gystal ag y medrwn i baratoi i ddychwelyd i’r stiwdio a’r theatr pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Mae dau faes i’r rhaglen:
​
Sgyrsiau Digidol:
- Fforwm ddigidol o ddosbarthiadau dawns ar-lein a gyflwynir gan ein dawnswyr proffesiynol
- Cyfweliadau gyda’n perfformwyr a Chyfarwyddwr
- Darn ffilm newydd sbon o’n cynhyrchiad teithio diweddaraf ‘Murmur’.
- Mynediad i gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan gerddorion Ransack.
​
Cliciwch ddolenni i gael mwy o wybodaeth:
​
​
​
​
​
​
Cyfweliadau
Ar y gweill:
- Parhau ein hymchwil ac ymarferion datblygu ar gyfer ein cynhyrchiad newydd, ar wedd ymarferion Zoom.
- Her ffilm dawns newydd cyffrous ar gyfer pawb sydd allan yna i gymryd rhan ynddynt ... rhannwch eich symudiadau dawns gyda ni a’n helpu i greu sgript lafar ar gyfer ein cynhyrchiad newydd!
- Gweithdai dawns ieuenctid newydd (dros Zoom) i greu ein golygfa ‘Fflach-dyrfa Gymunedol’ yn barod ar gyfer ein cynhyrchiad newydd.
​
Cliciwch ddolenni i gael mwy o wybodaeth: